News Centre

Cyngor Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar rent

Postiwyd ar : 17 Medi 2024

Cyngor Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar rent
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar y rhent maen nhw'n ei dalu.
 
Mae gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i ddweud wrth Cartrefi Caerffili, is-adran tai’r Cyngor, a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg ac yn fforddiadwy.  Mae'r Cyngor hefyd eisiau gwybod sut mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar ei gwsmeriaid.
 
Mae'r arolwg ar gael ar-lein yn Cartrefi Caerffili Eich Rhent – Eich Barn 2024 | Trafodaeth Caerffili; bydd yn dod i ben ddydd Llun 30 Medi.
 
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd un person yn ennill £150 ar ffurf talebau siopa a thri pherson arall yn ennill £60.
 
I unrhyw un sy’n methu â llenwi'r arolwg ar-lein neu sydd angen cymorth, mae modd cysylltu â Thîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned y Cyngor drwy ffonio 01443 811433/01443 811434 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau