Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2023
Gorchymyn Cau wedi'i roi i eiddo Cyngor Caerffili
News Centre
Gorchymyn Cau wedi'i roi i eiddo Cyngor Caerffili
Postiwyd ar : 05 Medi 2023
Mae Gorchymyn Cau wedi'i roi i un o eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd yr eiddo wedi dod yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol ers cryn dipyn o amser, gan achosi niwsans a gofid i drigolion eraill. Fe wnaeth Adran Gorfodi Tenantiaeth y Cyngor gais llwyddiannus am y Gorchymyn Cau ar ôl i gyngor, ymyriadau a chymorth niferus fethu â chael effaith barhaol.
Roedd achosion o gerddoriaeth uchel, iaith ddifrïol, pobl yn casglu yn hwyr yn y nos ac ymddygiad ymosodol yn yr eiddo yn achosi gofid i drigolion eraill. Cafodd y gwasanaethau brys hefyd eu rhoi dan straen ychwanegol o ganlyniad i gael eu galw i ddelio ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfeiriad.
Mae'r Gorchymyn Cau yn golygu, er bod modd i’r preswylwyr presennol aros, nid oes caniatâd i unrhyw ymwelwyr fynd i'r eiddo am gyfnod cychwynnol o 3 mis. Bydd y rheini sy'n mynd i’r eiddo yn mynd yn groes i'r Gorchymyn ac yn agored i gael eu harestio.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Mesurau fel hyn yw’r opsiwn olaf bob amser, ar ôl i'r holl gamau gweithredu rhesymol, angenrheidiol a chymesur gael eu cymryd pan fydd ein deiliaid contract (tenantiaid) yn achosi niwsans a gofid i drigolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
"Bydd y Gorchymyn Cau yn newyddion i'w groesawu i drigolion lleol sydd wedi dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn yr eiddo hwn."
Mae'r Adran Gorfodi Tenantiaeth yn ymdrin ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans sy’n cael eu profi naill ai gan ddeiliaid contract y Cyngor neu o ganlyniad i rywun sy'n byw yn eiddo'r Cyngor.
Os ydych chi'n profi digwyddiadau parhaus neu ddifrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans gan gymdogion, cysylltwch â'r Adran Gorfodi Tenantiaeth ar 01443 811440 neu drwy e-bostio
GorfodiTenantiaeth@caerffili.gov.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y