Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2022
Cronfa Ymrymuso'r Gymuned ar agor ar gyfer ceisiadau unwaith eto!
News Centre
Cronfa Ymrymuso'r Gymuned ar agor ar gyfer ceisiadau unwaith eto!
Postiwyd ar : 22 Medi 2022
Mae Cronfa Ymrymuso'r Gymuned yn gronfa ariannol sydd wedi'i chreu gan y Cyngor er mwyn galluogi cymunedau i ddatblygu a chyflawni prosiectau, gyda'r nod o ddiwallu anghenion ei drigolion.
Mae'r gronfa wedi'i dyrannu er mwyn sicrhau bod pob un o ardaloedd wardiau'r Cyngor yn gallu elwa ar gyllid trwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned ar gyfer prosiectau cymunedol lleol. Nod y prosiectau fydd cynorthwyo cymunedau i:
Adeiladu capasiti cymunedol, a deall a nodi dyheadau a blaenoriaethau lleol yn well
Gwneud defnydd da o'r asedau presennol, gyda phrosiectau'n cael cefnogaeth trigolion lleol
Datblygu prosiectau a allai ddod yn brosiectau cymunedol cynaliadwy, ac ategu gwasanaethau presennol mewn ardal trwy ddarparu gweithgaredd ychwanegol
Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Drawsnewid, “Sbardun allweddol ein rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ni yw ymgysylltu â'r gymuned, trwy fynd ati i alluogi ein trigolion ni i lywio meysydd sydd o bwys iddyn nhw yn uniongyrchol. Bydd y gronfa hon yn galluogi cymunedau i wneud hynny.
“Mae gan ein haelodau etholedig ni rôl allweddol hefyd drwy weithredu fel ‘noddwyr’ ar gyfer prosiectau sy'n gwneud cais am gyllid drwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned; byddan nhw'n gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, ac yn eu helpu nhw, i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau sy'n diwallu angen dynodedig yn y ward. Mae hwn yn gyfle go iawn i wneud mwy fyth o waith partneriaeth rhwng y Cyngor a'n cymunedau ni, ac rwy'n sicr y bydd pawb dan sylw yn croesawu'r gronfa hon.”
Wrth gyfrifo dyraniadau, mae'r swm o £341,120 wedi'i rannu â 69 (sef nifer y cynrychiolwyr etholedig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili), sy'n golygu dyraniad sy'n cyfateb i £4,940 fesul aelod etholedig y flwyddyn. Mewn wardiau lle mae mwy nag un aelod etholedig, mae'r dyraniad wedi'i luosi yn ôl nifer yr aelodau. Er enghraifft – mae gan ward Penyrheol bedwar cynrychiolydd etholedig, felly, byddai ward Penyrheol yn elwa ar ddyraniad o £19,760 (£4,940 x 4).
Yn dilyn adborth gan drigolion, mae wyth maes blaenoriaeth yn sail i'r meini prawf ymgeisio ar gyfer prosiectau. Rhaid i brosiectau sy'n gwneud cais am gyllid trwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned fodloni un neu ragor o'r canlynol:
Prosiectau amgylcheddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a chynyddu gweithgaredd cymunedol
Prosiectau sy'n cynorthwyo rhagor o gydlyniant cymunedol
Prosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig ar draws y gymuned
Prosiectau cynhwysiant digidol
Prosiectau i annog mwy o les corfforol a meddyliol
Gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc/gweithgareddau addysgol (anstatudol)
Mentrau sy'n hyrwyddo ac yn annog diogelwch y gymuned
Cynorthwyo grwpiau cymunedol i sefydlu
Beth nesaf?
Dylai grwpiau cymunedol sydd â syniad am brosiect gysylltu â'u haelod etholedig lleol yn y lle cyntaf. Mae rhestr lawn ar gael
yma
. Mae ffurflen gais fer i'w llenwi i amlinellu manylion y prosiect, a dylai gael ei hanfon i CYG@Caerffili.gov.uk. Mae'r cylch nesaf o geisiadau am gyllid yn cau ar 30 Medi 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ymrymuso'r Gymuned, cysylltwch â CYG@Caerffili.gov.uk neu fynd i
www.caerffili.gov.uk/cyg
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y