Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2022
Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig noddfa i geiswyr lloches
News Centre
Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig noddfa i geiswyr lloches
Postiwyd ar : 08 Medi 2022
Dros y 12 mis diwethaf, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynnig noddfa i bobl sy'n dianc rhag gwrthdaro ac erledigaeth, yn ôl casgliadau adroddiad diweddar.
Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar yr adroddiad adolygu yn ystod ei gyfarfod a gafodd ei gynnal ar 7 Medi. Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch mewn perthynas â lleoli ceiswyr lloches flwyddyn ar ôl i Gaerffili ddod yn Ardal Lleoli Ceiswyr Lloches gymeradwy ac roedd hefyd yn rhoi diweddariad ar adsefydlu grwpiau eraill sydd wedi'u dadleoli.
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â darparwr y Swyddfa Gartref, Clearsprings, i sicrhau dau eiddo i deuluoedd yn y sector preifat ar gyfer ceiswyr lloches. Rhoddodd yr adroddiad wybod i aelodau'r Cabinet bod un teulu wedi symud ymlaen i lety mwy cynaliadwy ers hynny, gan alluogi Clearsprings i ddefnyddio’r eiddo i ailgartrefu teulu arall. Mae'r Cyngor hefyd wedi cynorthwyo teuluoedd agored i niwed a gafodd eu symud o Kabul fel rhan o gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan.
Yn ogystal, mae 73 o wladolion Wcráin yn byw yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Maen nhw wedi'u cartrefu gyda gwesteiwyr lleol drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin a’u cynorthwyo drwy Gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.
Canfu'r adroddiad fod y niferoedd sy'n cyrraedd yn integreiddio'n dda, diolch i gymorth a gafodd ei ddarparu gan staff ymroddedig y Cyngor ar gyfer y gwesteiwyr a'r rhai sydd wedi cyrraedd o Wcráin.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae gennym ni hanes hir o helpu ac adsefydlu ffoaduriaid yng Nghaerffili, ac rydyn ni'n falch o barhau i ddarparu noddfa i'r rhai sy'n dianc rhag erchyllterau rhyfel ac erledigaeth.
“Hoffwn i ddiolch i’r gwesteiwyr sydd wedi gwirfoddoli i agor eu cartrefi i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng dyngarol presennol yn Wcráin ac i staff y Cyngor sydd wedi rhoi o’u hamser i groesawu’r rhai sy’n cyrraedd y Fwrdeistref Sirol.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y