News Centre

Clybiau Hoci Sue Noake a Rhisga yn cael diffibrilwyr gan elusen RALPHH mewn partneriaeth â Hoci Cymru

Postiwyd ar : 08 Hyd 2024

Clybiau Hoci Sue Noake a Rhisga yn cael diffibrilwyr gan elusen RALPHH mewn partneriaeth â Hoci Cymru
Clybiau Hoci Sue Noake a Rhisga, sydd wedi’u lleoli yn Hwb Hoci Canolfan Hamdden Sue Noake y Cyngor yn Ystrad Mynach, yw’r pumed a’r chweched clwb yng Nghymru i gael diffibrilwyr tyngedfennol. Cafodd y diffibrilwyr eu rhoi gan elusen RALPHH mewn partneriaeth â Hoci Cymru, fel rhan o fenter genedlaethol i wella diogelwch chwaraewyr ac aelodau yn ystod sesiynau ymarfer a gemau.
 
Bydd y diffibrilwyr, a gafodd eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Hydref, yn cael eu cadw ar bwys y cae ar gyfer gemau cartref ac oddi cartref, gan ddarparu cymorth brys ar unwaith pe bai angen. Bydd y cyfarpar hanfodol hwn yn cyfrannu at sicrhau iechyd a lles pawb sy'n ymwneud â hoci yn y ddau glwb.
 
Mae elusen RALPHH, a gafodd ei sefydlu er cof am Robert Allen ac a gafodd gydnabyddiaeth yn swyddogol yn 2019, eisoes wedi cynorthwyo’r gwaith o ddosbarthu 19 o ddiffibrilwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan weithio’n agos gydag England Hockey a chyrff llywodraethu eraill. Bellach, mae clybiau Cymru yn elwa o ymdrechion yr elusen i ddarparu diffibrilwyr yn rhad ac am ddim i sicrhau rhagor o ddiogelwch mewn amgylcheddau chwaraeon.
 
Fe wnaeth y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, roi canmoliaeth i’r fenter, gan ddweud, “Mae iechyd a diogelwch ein cymuned yn hollbwysig, a bydd cael y diffibrilwyr hyn ar bwys y cae yn yr Hwb Hoci yn Ystrad Mynach ac ar gyfer gemau oddi cartref yn rhoi tawelwch meddwl i ni. Rydyn ni’n ddiolchgar i elusen RALPHH a Hoci Cymru am eu cymorth i wneud ein cyfleusterau chwaraeon yn fwy diogel i bawb."
 
Mae’r diffibrilwyr yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim i glybiau hoci ledled Cymru, ac mae clybiau sydd â diddordeb mewn cael un yn cael eu hannog i gysylltu â nhw ar 0300 300 3126 neu info@hockeywales.org.uk. Mae modd gwneud rhoddion yn hytrach na chael dyfais trwy wefan elusen RALPHH i gynorthwyo'r fenter.


Ymholiadau'r Cyfryngau