News Centre

Tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent

Postiwyd ar : 07 Hyd 2024

Tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Mae tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau mawreddog yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, a fydd yn cael ei gynnal ar 8 Hydref yng Nghlwb Rygbi Coed Duon. Mae’r seremoni wobrwyo yn dathlu cyfraniadau eithriadol gwirfoddolwyr ledled ardal Gwent, ac mae’r enwebiadau hyn yn amlygu gwaith anhygoel unigolion a grwpiau yn y gymuned.

Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae Sian Mainwaring, cyfaill 1:1 a chafodd ei henwebu ar gyfer y Wobr Iechyd a Lles. Cafodd Sian ei henwebu gan Dorothy, ei chleient 97 oed, a enillodd wobr debyg flynyddoedd yn ôl ac a oedd am gydnabod ymroddiad Sian. Dros amser, mae Sian a Dorothy wedi ffurfio perthynas agos, gyda Sian yn ymweld â Dorothy yn wythnosol ac yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol hanfodol.  Mae'r wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n helpu eraill i ymdopi â heriau bywyd, gan gynnig gofal a thosturi i wella iechyd a lles.

Mae Grŵp Cymdeithasol Dwyrain Caerffili wedi'i enwebu ar gyfer y Wobr Eiriolwr Cymunedol. Mae’r grŵp wedi goresgyn adfyd sylweddol, gan gynnwys colli eu canolfan gymunedol flaenorol a’r staff a oedd yn eu cynorthwyo nhw, yn enwedig yn ystod y pandemig. Er gwaethaf yr heriau hyn, maen nhw wedi cadw’r grŵp yn fyw, gan sicrhau cyllid a lleoliad newydd cynaliadwy lle maen nhw’n parhau i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau. Mae'r wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n cyfrannu at y gymuned trwy helpu eraill i ddod o hyd i ymdeimlad o berthyn, parch a gwerth.

Fe wnaeth y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau ganmol y tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud, “Mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld Sian Mainwaring, Grŵp Cymdeithasol Dwyrain Caerffili a Valley Daffodils yn cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.  Mae eu hymrwymiad i gynorthwyo eraill yn ein cymuned trwy eu gwaith gwirfoddol yn rhyfeddol. Mae Gofalu am Gaerffili yn falch o gynorthwyo unigolion a grwpiau mor ymroddedig, a dymunwn bob lwc iddyn nhw yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.”

Bydd cynrychiolwyr Gofalu am Gaerffili yn mynychu'r seremoni i gefnogi'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae pob un ohonyn nhw’n dangos pŵer cymuned a gwirfoddoli wrth drawsnewid bywydau.


Ymholiadau'r Cyfryngau