News Centre

Hwb Llyfrgell Rhymni i gynnal digwyddiad Lles a Datgarboneiddio ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd

Postiwyd ar : 07 Hyd 2024

Hwb Llyfrgell Rhymni i gynnal digwyddiad Lles a Datgarboneiddio ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro i gyhoeddi digwyddiad arbennig sy’n canolbwyntio ar les a datgarboneiddio, sy’n cael ei gynnal yn Hwb Llyfrgell Rhymni, ddydd Iau 10 Hydref. Mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd ag Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, sy’n dathlu cynaliadwyedd, ymgysylltu â’r gymuned a byw’n eco-ymwybodol.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Gofalu am Gaerffili a'r Tîm Datgarboneiddio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn digwydd rhwng 3pm a 5pm.  Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o ymdrechion datgarboneiddio a darparu cyngor ymarferol ar y newidiadau bach ond dylanwadol y gall unigolion eu gwneud i helpu'r amgylchedd a'u lles personol.

Ffocws allweddol y digwyddiad fydd ymgynghoriad dan arweiniad y Tîm Datgarboneiddio, a fydd ar gael i drafod strategaethau ar gyfer lleihau ôl troed carbon a chasglu adborth y cyhoedd ar ddatgarboneiddio. Bydd y rhai sy’n bresennolyn cael cyfle i rannu eu syniadau a chyfrannu syniadau ar sut gall y gymuned gydweithio tuag at ddyfodol gwyrddach. Yn ogystal, byddan nhw’n dysgu am arferion ecogyfeillgar, syniadau i arbed ynni a phwysigrwydd cyffredinol datgarboneiddio bywyd pob dydd.

Yn ogystal â hyn, bydd y digwyddiad yn cynnig gweithgareddau amrywiol ac yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cymorth, popeth wedi'i gynllunio i helpu gwella eich iechyd, eich lles a'ch effaith amgylcheddol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â’ch cymuned leol, darganfod rhagor am sut i wella ansawdd eich bywyd, a chwarae eich rhan i gefnogi’r ymdrech fyd-eang i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gofalu am Gaerffili ar 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk, neu anfon y gair ‘CYMORTH’ fel neges destun i 07537 414443.


Ymholiadau'r Cyfryngau