News Centre

Gwaith adnewyddu Pwll Trecelyn ar fin cael ei gwblhau

Postiwyd ar : 07 Hyd 2024

Gwaith adnewyddu Pwll Trecelyn ar fin cael ei gwblhau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o roi diweddariad ar y gwaith adnewyddu parhaus ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn. Mae'r pwll nofio wedi bod ar gau ers mis Gorffennaf er mwyn caniatáu gwaith amnewid ffaniau’r uned trin aer, a oedd angen rhannau pwrpasol nad ydyn nhw ar gael, yn anffodus, yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Cyngor yn hapus i ddweud bod y gwaith yn mynd rhagddo'n dda, gyda'r prosiect bron wedi'i gwblhau.  Ochr yn ochr â gosod y ffan newydd, mae gwaith cynnal a chadw ychwanegol wedi'i ddwyn ymlaen er mwyn atal rhagor o gyfnodau o gau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Fel rhan o'r gwaith adnewyddu, mae'r sleid hefyd wedi cael ei adnewyddu'n llawn, gan wella'r profiad cyffredinol i ddefnyddwyr y pwll.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Rydyn ni’n deall yr effaith mae’r cyfnod estynedig o gau wedi’i chael ar ein cymuned, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd pawb yn fawr. Bydd y gwaith uwchraddio rydyn ni wedi’i wneud, gan gynnwys gwaith adnewyddu’r sleid, yn gwella cyfleusterau’r pwll ac yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n gwasanaethau hamdden am flynyddoedd i ddod.  Rydyn ni’n llawn cyffro i groesawu pawb yn ôl a diolch i’n defnyddwyr am eu cefnogaeth barhaus.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Trecelyn ar: 
Ffôn: 01495 248100 E-bost: CHTrecelyn@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau