News Centre

Gweddnewid cofeb ryfel Rhisga

Postiwyd ar : 23 Hyd 2024

Gweddnewid cofeb ryfel Rhisga
Mae cofeb ryfel yn Rhisga wedi cael ei gweddnewid mewn pryd ar gyfer Sul y Cofio.

Ymunodd cangen Rhisga o’r Lleng Brydeinig Frenhinol â’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i drawsnewid y gofeb yn St Mary Street a’r ardd o’i chwmpas.

Fe wnaeth gwirfoddolwyr gydweithio i glirio chwyn a gordyfiant o'r ardd, plannu llwyni, ail-baentio meinciau a glanhau'r ardal i baratoi ar gyfer ymwelwyr y digwyddiad Sul y Cofio ar 10 Tachwedd. Mae silwetau milwrol metel newydd wedi’u hychwanegu at y gofeb, ynghyd â ‘rhaeadr pabi’ a gafodd ei chreu gan gangen Rhisga o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a Risca Yarn Bombers.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio mewn partneriaeth â Willmott Dixon i ddatblygu cynllun byw bywyd hŷn newydd blaenllaw ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga, gyferbyn â'r gofeb ryfel.  Bydd y palisau o amgylch y safle yn dod yn estyniad dros dro i’r gofeb ryfel ar gyfer Sul y Cofio, pan fydd yr arddangosfa bresennol yn cael ei disodli gan enwau pawb o ardal Rhisga a gollodd eu bywydau yn y ddau Ryfel Byd. 

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni’n gwybod bod Tŷ Darran yn arfer bod yn rhan bwysig o’r gymuned yn Rhisga; rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned hefyd yn parhau i fod wrth galon y datblygiad newydd.  Hoffwn i ddiolch i dîm y safle o Willmott Dixon a Thîm Datblygu Cartrefi Caerffili am weithio gyda gwirfoddolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol ac am eu brwdfrydedd a’u hangerdd wrth ymgysylltu â’r gymuned leol a chynorthwyo prosiectau pwysig fel hyn.”

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr help sydd wedi’i roi gan Willmott Dixon a Chyngor Caerffili i lanhau amgylchoedd y gofeb ryfel.” Dywedodd Steve Veysey, cangen Rhisga o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, “Cafodd y gwaith ei rannu rhwng y tri thîm, ac roedd pawb yn frwdfrydig iawn i wneud y gwelliannau mewn pryd ar gyfer diwrnod mwyaf y flwyddyn i’r Lleng, sef Sul y Cofio."

“Mae’n wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i sicrhau bod y gofeb yn edrych ar ei gorau ac yn deyrnged deilwng i’r rhai a fu farw. Rydyn ni’n falch iawn bod Willmott Dixon wedi bod mor rhagweithiol ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros weddill y cyfnod maen nhw ar y safle.”

Ychwanegodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Un o’n blaenoriaethau allweddol yw cynorthwyo’r bobl yn y cymunedau rydyn ni’n eu hadeiladu i ffynnu.  Mae’n anrhydedd bod yn rhan o’r gwaith o drawsnewid y gofeb ryfel sy’n agos at ein prosiect yn Nhŷ Darran.  Rydyn ni’n hynod falch o weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Lleng Brydeinig Frenhinol i sicrhau bod y gofeb yn gydnabyddiaeth deilwng i’r rhai o’r ardal leol a gollodd eu bywydau.” 
 
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau