News Centre

Ymgynghoriad Llyfrgelloedd – Sesiynau Galw Heibio i Ddweud eich Dweud

Postiwyd ar : 22 Hyd 2024

Ymgynghoriad Llyfrgelloedd – Sesiynau Galw Heibio i Ddweud eich Dweud
Mae gofyn i drigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ddweud eu dweud ar gynllun beiddgar i drawsnewid y ffordd y mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.

Gallwch chi ddweud eich dweud drwy ymweld ag un o’r sesiynau galw heibio anffurfiol, y sesiynau galw heibio ar-lein neu drwy lenwi arolwg copi caled neu arolwg ar-lein.

Dewch draw i siarad â ni yn un o'r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:
 
Lleoliad Dyddiad Amser
Llyfrgell Oakdale Dydd Mawrth 29 Hydref 4-6pm
Llyfrgell Bedwas Dydd Llun 4 Tachwedd 3-5pm
Llyfrgell Llanbradach Dydd Mercher 6 Tachwedd 10am–12pm
Llyfrgell Abercarn Dydd Iau 7 Tachwedd 3-5pm
Llyfrgell Abertridwr Dydd Llun 11 Tachwedd 4-6pm
Llyfrgell Trecelyn (Neuadd Goffa) Dydd Mawrth 12 Tachwedd 4-6pm
Llyfrgell Tredegar Newydd (Canolfan Adnoddau'r Rhosyn Gwyn) Dydd Mercher 13 Tachwedd 3-5pm
Llyfrgell Machen Dydd Iau 14 Tachwedd 4-6pm
Llyfrgell Nelson Dydd Gwener 15 Tachwedd 10am–12pm
Llyfrgell Deri Dydd Mercher 20 Tachwedd 4-6pm
Llyfrgell Aberbargod Dydd Iau 21 Tachwedd 3-5pm
Llyfrgell Caerffili Dydd Gwener 22 Tachwedd 10am-12pm
Llyfrgell Coed Duon Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 10am-12pm
Hwb Llyfrgell Rhymni Dydd Llun 25 Tachwedd 4-6pm
Llyfrgell Ystrad Mynach Dydd Mawrth 26 Tachwedd 10am-12pm
Llyfrgell Rhisga Dydd Mercher 27 Tachwedd 11am-1pm
Llyfrgell Pengam (yn amodol ar y lleoliad yn ailagor erbyn y dyddiad hwn) Dydd Iau 28 Tachwedd 11am-1pm
Llyfrgell Bargod Dydd Iau 28 Tachwedd 3-5pm
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864354.
 
Sesiynau galw heibio ar-lein:
 
Dyddiad Amser
Dydd Mercher 6 Tachwedd 5-7pm
Dydd Iau 14 Tachwedd 11am-1pm
Dydd Mawrth 19 Tachwedd 4-6pm
I gael y ddolen i ymuno â sesiwn galw heibio ar-lein, anfonwch e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk

Arolwg Ar-lein

Am ragor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg ar-lein, ewch i: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/gweledigaeth-strategol-ddrafft-y-gwasanaeth-llyfrgelloedd-2024-2028. Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael fel copi caled o unrhyw lyfrgell ledled y Fwrdeistref Sirol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau