News Centre

Anrhydeddu Ysgol Gynradd Fochriw â Gwobr The Daily Mile Children’s Fit for Life Award’

Postiwyd ar : 24 Hyd 2024

Anrhydeddu Ysgol Gynradd Fochriw â Gwobr The Daily Mile Children’s Fit for Life Award’
Mae Ysgol Gynradd Fochriw yng Nghaerffili wedi cael ei chydnabod gyda Gwobr ‘The Daily Mile Children’s Fit for Life Award’, sy'n dathlu ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith ei disgyblion. Cafodd y wobr ei chyflwyno gan Luke Rowe, seren beicio Cymru, a wnaeth ymweliad arbennig â'r ysgol i nodi'r achlysur. 
 
Ymunodd yr ysgol â’r fenter The Daily Mile yn 2016, gan annog ei disgyblion i redeg, cerdded neu olwyno am 15 munud yn ystod y diwrnod ysgol. Mae'r ymrwymiad hwn wedi cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a lles y plant, gan feithrin diwylliant o ymarfer corff rheolaidd mewn ffordd gynhwysol a llawn hwyl. 
 
Yn ystod ei ymweliad, ymunodd Luke Rowe â'r disgyblion i gyflawni The Daily Mile, eu hysbrydoli nhw gyda'i brofiad fel athletwr a rhannu pwysigrwydd cadw'n heini. Roedd y digwyddiad yn pwysleisio y gall gweithgareddau corfforol syml a chyson greu arferion iach gydol oes. 
 
Canmolodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, gyflawniad yr ysgol, "Mae Ysgol Gynradd Fochriw wedi dangos ymrwymiad anhygoel i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd i'w disgyblion.  Mae mentrau fel The Daily Mile yn hanfodol i annog plant i fyw bywydau iachach, ac mae'n wych gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad y disgyblion a'r staff." 
 
Cafodd y menter The Daily Mile, gyda chymorth INEOS, ei sefydlu yn 2012 ac ers hynny mae wedi dod yn fenter fyd-eang gyda'r nod o wella iechyd a ffitrwydd plant. Mae’r gydnabyddiaeth yn dyst i ymdrechion parhaus Ysgol Gynradd Fochriw i wneud ymarfer corff yn rhan hwyliog ac annatod o'r diwrnod ysgol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau