News Centre

Gweithgareddau cyffrous ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod hanner tymor mis Hydref

Postiwyd ar : 23 Hyd 2024

Gweithgareddau cyffrous ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod hanner tymor mis Hydref
Paratowch ar gyfer hanner tymor mis Hydref llawn hwyl a sbri gydag amrywiaeth o weithgareddau i blant o bob oed ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.  O ddiwrnodau antur a gwersi nofio i wersylloedd chwaraeon, mae rhywbeth at ddant pawb.  Dyma grynodeb o'r hyn sydd ar gael:

Anturiaethau Caerffili

Diwrnodau antur yr hydref i blant: £28 y diwrnod

Mae diwrnodau antur yr hydref i blant yng Nghoedwig Cwmcarn yn cynnig profiad awyr agored gwych i blant 7 i 12 oed. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous fel byw yn y gwyllt, lle byddan nhw’n dysgu sgiliau goroesi a chrefftau sy’n seiliedig ar natur, chwaraeon padlo i ddatblygu eu hyder ar y dŵr, a theithiau cerdded antur tywysedig sy’n archwilio amgylchoedd prydferth y goedwig a’r rhyfeddodau sydd gan natur i’w cynnig.
  • Dyddiad: Dydd Gwener 1 Tachwedd, 9.30am–3.30pm

I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 01495 271234 neu e-bostio AnturiaethauCaerffili@caerffili.gov.uk.
 
Chwarae Caerffili

Sioe Chwarae Deithiol Arswydus: Am ddim

Mae’r Sioe Chwarae Deithiol Arswydus yn ddigwyddiad creadigol llawn hwyl i blant rhwng 4 a 12 oed, lle gallan nhw fwynhau gwneud sleim, peintio pwmpenni, a chrefftau arswydus.  Mae’r sesiynau chwarae wedi’u harwain gan weithwyr chwarae ac maen nhw’n rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, llawn dychymyg wrth gymdeithasu ag eraill mewn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth.

Lleoliadau a dyddiadau:

Dydd Mawrth 29 Hydref:
  • 10.00am–11.30am: Neuadd Llanfach, Abercarn
  • 1.00pm–2.00pm:  Neuadd yr Henoed, Cwmcarn

Dydd Mercher 30 Hydref:
  • 10.00am–11.30am: Canolfan Gymunedol Markham
  • 1.00pm–2.30pm: Canolfan Gymunedol Tirphil

Dydd Iau 31 Hydref:
  • 10.00am–11.30am: Clwb Bechgyn a Merched Pontlotyn
  • 1.00pm–2.30pm: Canolfan Gymunedol Treffilip

Dydd Gwener 1 Tachwedd:
  • 10.00am–11.30am: New Life Christian Church (NLCC), Abercarn
  • 1.00pm–2.30pm: Canolfan Gymunedol Plasmawr, Coed Duon
Os yw plant o dan 7 oed, mae'n ofynnol i’w rhieni/gwarcheidwaid aros gyda nhw a chwblhau ffurflen ganiatâd ar y diwrnod os nad ydyn nhw wedi cadw lle ymlaen llaw.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Thomas ar 07720 103858 neu e-bostio WillI17@caerffili.gov.uk.

Dull Byw Hamdden

Rhaglen nofio hanner tymor mis Hydref

Mae'r rhaglen nofio hanner tymor yn ein canolfannau hamdden yn llawn dop o weithgareddau i gadw'r plant yn actif ac wedi’u diddanu. Mae’n cynnwys amrywiaeth o sesiynau, gan gynnwys sesiynau hwyl â theganau gwynt lle gall plant sblasio o gwmpas ar deganau gwynt dŵr, sesiynau nofio cyhoeddus i deuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd, a gweithgareddau dŵr diddorol eraill sy’n siŵr o wneud sblash.  Mae’n ffordd berffaith o gael hwyl yn y dŵr wrth wella sgiliau nofio, gwneud ffrindiau newydd a magu hyder.

Edrychwch ar ein rhaglen ar gyfer hanner tymor mis Hydref yma: https://bit.ly/4a78QE8

Cyrsiau carlam nofio dwys: £22 yr wythnos

Mae’r cwrs dwys hwn o wersi nofio yng Nghanolfan Hamdden Heolddu ym Margod yn canolbwyntio ar wella technegau nofio a meithrin hyder yn y dŵr yn gyflym dros gyfnod byr.  Wedi'i rannu'n ddwy lefel, mae Sblash 5 a 6 ar gyfer y rhai sydd am fireinio eu sgiliau, ac mae Ton 1 a 2 ar gyfer dechreuwyr. Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio i ddarparu cyfarwyddyd dwys, wedi'i dargedu, sy'n helpu nofwyr i ddatblygu’n gyflymach.
 
  • Dyddiadau: Dydd Llun 28 Hydref – dydd Gwener 1 Tachwedd
  • Amser: 10.00am–10.30am: Sblash 5 a 6 / 10.30am–11.00am: Ton 1 a 2
I gadw eich lle, cysylltwch â’r dderbynfa yng Nghanolfan Hamdden Heolddu ar 07933 174374 neu e-bostio CHHeolddu@caerffili.gov.uk.

Chwaraeon Caerffili

Gwersylloedd pêl-rwyd: £11.66 y diwrnod

Mae ein gwersylloedd pêl-rwyd yn cynnig diwrnod llawn o hyfforddiant sgiliau, driliau, a gemau llawn hwyl i blant 7 i 12 oed.  Dan arweiniad hyfforddwyr profiadol, nod y gwersylloedd yw datblygu gwaith tîm, sgiliau cydsymud ac ystwythder cyfranogwyr ar y cwrt tra hefyd yn darparu ffordd wych i gadw'n heini a mwynhau'r gamp.
 
  • Lleoliadau a dyddiadau:  Canolfan Hamdden Sant Cenydd: Dydd Mercher 30 Hydref 9.00am–3.00pm / Canolfan Hamdden Trecelyn: Dydd Iau 31 Hydref, 9.00am–3.00pm

I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu cysylltwch ar 029 2088 1448 neu e-bostio SeaboC@caerffili.gov.uk am ragor o fanylion.

Gwersyll hoci: £11.66 y diwrnod

Mae’r gwersyll hoci yng Nghanolfan Hamdden Sue Noake yn berffaith ar gyfer athletwyr ifanc rhwng 7 a 12 oed sydd eisiau gwella eu sgiliau yn y gamp.  Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn driliau a sesiynau ymarfer sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu techneg, gwaith tîm a strategaeth gêm gyffredinol mewn amgylchedd cefnogol ac egnïol.

• Dyddiad: Dydd Mawrth 29 Hydref 9.00am–3.00pm

I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â SeaboC@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 815511.

Gwersyll pêl-droed: £11.66 y diwrnod

Mae’r gwersyll pêl-droed yng Nghanolfan Hamdden Rhisga yn darparu cyfres o sesiynau difyr lle gall plant 7 i 12 oed weithio ar eu sgiliau pêl-droed.  Trwy gyfuniad o ddriliau, gemau a gornestau, bydd chwaraewyr ifanc yn datblygu eu galluoedd o ran rheoli pêl, pasio a gwaith tîm wrth fwynhau gwefr y gamp a gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.
 
  • Dyddiadau: Dydd Mawrth 29 Hydref, dydd Mercher 30 Hydref a dydd Iau 31 Hydref 9.00am–3.00pm
I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ChwaraeonCaerffili@caerffili.gov.uk neu 01443 863072.

Cynllun Chwaraeon Cymunedol Rhymni ac Abertyswg: Am ddim

Mae Cynllun Chwaraeon Cymunedol Rhymni ac Abertyswg yn cynnig sesiynau am ddim i blant 7 i 12 oed yn y cymunedau hyn.  Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i gynnwys plant mewn amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau mewn amgylchedd cefnogol a llawn hwyl, gan eu helpu nhw i gadw'n heini yn ystod gwyliau hanner tymor.

Lleoliad a dyddiadau:
  • Canolfan Gymunedol Ael-y-Bryn: Dydd Llun 28, dydd Mercher 30, dydd Iau 31 Hydref, a dydd Gwener 1 Tachwedd, 9.00am–12.00pm
  • Canolfan Gymunedol Abertyswg: Dydd Mercher 30, dydd Iau 31 Hydref, a dydd Gwener 1 Tachwedd, 1.00pm–4.00pm
  • Clwb Bechgyn a Merched Pontlotyn:  Dydd Llun 28 Hydref, 1.00pm–4.00pm a dydd Mawrth 29 Hydref, 9.00am–4.00pm

Mae'r sesiynau hyn ar gyfer plant Rhymni ac Abertyswg yn unig.  Rhaid i rieni lenwi ffurflen ganiatâd cyn i'w plentyn gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ChwaraeonCaerffili@caerffili.gov.uk neu 01443 863072.

Mae'r gweithgareddau hanner tymor hyn yn ffordd wych o sicrhau bod plant yn egnïol, wedi’u diddanu, ac yn cael hwyl yn ystod gwyliau’r ysgol.  Peidiwch â cholli’r cyfle – cadwch eich lle heddiw! 


Ymholiadau'r Cyfryngau