News Centre

Gofalwyr Maeth Caerffili yn dangos yr hyn maen nhw’n ei gynnig

Postiwyd ar : 08 Hyd 2024

Gofalwyr Maeth Caerffili yn dangos yr hyn maen nhw’n ei gynnig
Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr maeth ychwanegol i ddiwallu anghenion plant lleol mewn gofal.
 
Yn barod ar gyfer ymgyrch 2024, ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, mae Maethu Cymru wedi siarad â mwy na 100 o bobl gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a’r rhai sy’n gadael gofal. Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:
 
  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gynorthwyo plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.
 
Mae Maethu Cymru Caerffili yn parhau â’r ymgyrch genedlaethol ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ a’i nod yw codi ymwybyddiaeth am y gwahanol ffyrdd o faethu gan gynnwys sut y gall mathau ‘heriol’ o faethu fod yn addas i unigolion a theuluoedd.
 
Rydyn ni eisiau tynnu sylw at y sgiliau a’r priodoleddau sy’n helpu darparu cartrefi cariadus i blant neu grwpiau sy'n cael eu hystyried yn fwy ‘heriol’, fel rhiant a phlentyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, pobl ifanc yn eu harddegau, plant ag anabledd, a phlant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.
 
Gall amynedd, sgiliau cyfathrebu da, chwilfrydedd, synnwyr digrifwch neu'r gallu i addasu, ymhlith nodweddion eraill, eich gwneud chi’n ofalwr maeth gwych. Mae’r priodoleddau hyn yn fach ond yn arwyddocaol o ran trawsnewid bywydau plant yn eich gofal.
 
Dywedodd Mike, sy’n maethu ffoaduriaid ifanc sydd angen diogelwch ac arweiniad, “Rwy’n gofalu am ddau fachgen o Afghanistan, y ddau yn 16 oed. Maen nhw wedi setlo’n dda iawn. Maen nhw wrth eu bodd yn gwneud chwaraeon. Mae’n bleser bod yn eu cwmni nhw. Rydyn ni wedi rhannu ein diwylliant gyda nhw, ac maen nhw wedi rhannu eu diwylliant gyda ni. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i mi, yn dysgu amdanyn nhw, yn eu haddysgu nhw amdanon ni ac yn dangos bod cymaint o bethau sy’n gyffredin rhyngom ni. Nid yw’n achos o ‘nhw a ni’, dim ond ‘ni’.”
 
Mae’r ymgyrch ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ yn dechrau ddydd Llun 7 Hydref ledled y cyfryngau digidol a chymdeithasol a gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili a rhanbarth Gwent.
 
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i: https://fosterwales.caerphilly.gov.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau