Sefydliad y Glowyr Coed Duon - Diweddariad
Postiwyd ar : 24 Hyd 2024
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Mae cyngor bwrdeistref sirol Caerffili wedi cyhoeddi y bydd Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn aros ar agor tan ddiwedd mis Mawrth 2025.
Cafodd cynigion i roi’r gorau i’r lleoliad ar ddiwedd 2024 eu gohirio fis diwethaf, oherwydd statws elusennol Sefydliad y Glowyr Coed Duon, a rôl y cyngor fel Ymddiriedolwyr yn y broses gwneud penderfyniadau.
Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn ceisio cyngor cyfreithiol ar y mecanwaith mwyaf priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau ac, unwaith y bydd y cyngor hwn wedi'i ystyried, byddwn yn paratoi'r adroddiad ar ddyfodol y lleoliad.
Bydd digwyddiadau a gweithgareddau wedi’u hamserlennu yn parhau yn y lleoliad tan 31 Mawrth 2025, a bydd y cyngor yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned a’r staff am ddatblygiadau.