Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2023
Buddsoddi yn eich cymuned CHI
News Centre
Buddsoddi yn eich cymuned CHI
Postiwyd ar : 26 Hyd 2023
Mae strategaeth fawr, sydd â'r nod o annog rhagor o bobl ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i fod yn fwy egnïol, wedi sicrhau manteision sylweddol yn ei 5 mlynedd gyntaf.
Mae Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029 Cyngor Caerffili yn gynllun 10 mlynedd a gafodd ei gymeradwyo yn ôl yn 2018.
Ers ei rhoi ar waith, mae’r strategaeth wedi sicrhau bron i £3 miliwn o fuddsoddiad mewn amrywiaeth wefreiddiol o gyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys 5 cae pêl-droed a rygbi 3G defnydd deuol newydd, canolfan athletau, canolfan hoci, ac adnewyddu ac ailddatblygu ystafelloedd ffitrwydd mewn 2 ganolfan hamdden.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Hamdden, “Mae’n amlwg bod ein strategaeth yn gweithio ac eisoes wedi sicrhau llawer o fanteision cadarnhaol i gymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol gyfan.
“Ein gweledigaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol yw annog ffyrdd iach o fyw a chynorthwyo ein trigolion o bob oed a gallu i fod yn fwy egnïol, yn amlach. Yn ogystal â’r hyn sydd eisoes wedi’i fuddsoddi, mae gennym ni gynlluniau cyffrous ar gyfer buddsoddiad hyd yn oed yn fwy sylweddol yn y dyfodol, ac rwy’n siŵr y bydd y gymuned gyfan yn ei groesawu ac yn edrych ymlaen ato.
“Hefyd, rydw i am ddiolch i’r holl staff ymroddedig sy’n allweddol wrth helpu gweithredu a chynorthwyo’r cyfleusterau cymunedol amhrisiadwy hyn,” ychwanegodd.
Mae rhywfaint o’r buddsoddiad sy’n deillio o Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor hyd yma yn cynnwys:
£390,000
- Canolfan hoci newydd yng Nghanolfan Hamdden Sue Noake, Ystrad Mynach, a chae 3G newydd yn Ysgol Idris Davies.
£315,000
- Cae 3G newydd, ffensys, goleuadau ac ystafelloedd newid yng Nghanolfan Hamdden Bedwas.
£755,000
– Canolfan athletau newydd yn Oakdale ger Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd.
£110,000
– Cae 3G newydd yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant.
£90,000
– Cae 3G newydd yn Ysgol Lewis Pengam.
£90,000
– Cae 3G newydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
£73,000
- menter Cwrt Cruyff Aaron Ramsey yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod.
£15,445
- rhaglen ail-wynebu cwrt pêl-law Nelson.
£875,000
wedi'i fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn (ystafell ffitrwydd, stiwdio ddawns a beicio, offer pwll ac adnewyddu ystafell newid).
£100,000
i adnewyddu'r ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu
Yn dod yn fuan!
Canolfan Hamdden a Lles newydd gwerth
£33.6 miliwn
yng Nghaerffili.
Yn dod yn fuan!
Canolfan newydd ar gyfer Dysgwyr Agored i Niwed ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith, yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon cymunedol newydd.
Yn dod yn fuan!
Uwchraddio cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn a chae 3G bach yn Ysgol Gynradd Abercarn.
Mae’r strategaeth hefyd yn cwmpasu amrywiaeth o fentrau eraill sydd wedi helpu gwella lles cymunedol megis cynlluniau atgyfeirio cleifion, Ysgolion Bro, prosiectau wedi’u targedu Teuluoedd yn Gyntaf a rhaglenni cerdded iach ac ati.
Bydd adroddiad ar y cynnydd o ran cyflawni Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029 y Cyngor yn cael ei ystyried mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu Tai a’r Amgylchedd ar 31 Hydref. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma:
https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=634&MId=14228&LLL=1
.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y