Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2022
Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Fochriw
News Centre
Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Fochriw
Postiwyd ar : 07 Hyd 2022
Mae Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Fochriw i gyflwyno Gwobr y Gymraeg iddyn nhw a dathlu Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol.
Cafodd y Gweinidog daith o amgylch yr ysgol, dan arweiniad cynrychiolwyr o grwpiau llais disgyblion yr ysgol a’r Pennaeth, Sharon Pascoe. Yn fuan wedyn, mynychodd y Gweinidog wasanaeth yr ysgol lle cyflwynodd ‘Wobr Arian y Siarter Iaith’ i ddysgwyr uchelgeisiol a galluog y ‘Criw Cymraeg’. Yn olaf, cymerodd Jeremy Miles AS ran ym ‘Milltir Ddyddiol’ yr ysgol gyda disgyblion hyderus ac iach Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6.
Dywedodd Sharon Pascoe, Pennaeth Ysgol Gynradd Fochriw, “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru i Ysgol Gynradd Fochriw. Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau â’r cyfle i rannu ein ‘taith Cwricwlwm i Gymru hyd yma’ a dangos sut mae’r pedwar diben yn treiddio i'n bywyd ysgol yma yn Fochriw. Mae’n fraint ennill Gwobr Arian y Siarter Iaith gan y Gweinidog ac iddo ymuno â ni ar gyfer ein dathliad blynyddol o Ddiwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol!”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Diolch i bawb yn Ysgol Gynradd Fochriw am drefnu ymweliad mor ddymunol, lle wnes i hyd yn oed wisgo fy esgidiau ymarfer i ymuno yn y sesiwn rhedeg dyddiol. Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld a chlywed sut mae’r ysgol yn gwreiddio’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
“Hoffwn hefyd longyfarch yr ysgol ar dderbyn eu gwobr Siarter Iaith, yr oeddwn i’n falch iawn o allu cyflwyno iddyn nhw yn bersonol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Roedd yn hyfryd bod yn rhan o ymweliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ag Ysgol Gynradd Fochriw. Roedd yn wych i ddisgyblion a staff gwrdd â Jeremy Miles AS yn eu hysgol eu hunain a gallu gofyn cwestiynau iddo.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y