Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2022
Ymdrechion y Cyngor i wneud Caerffili yn fwrdeistref wyrddach
News Centre
Ymdrechion y Cyngor i wneud Caerffili yn fwrdeistref wyrddach
Postiwyd ar : 26 Hyd 2022
Mae adroddiad diweddar yn tynnu sylw at yr ymdrechion mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u gwneud i roi ‘Strategaeth Seilwaith Gwyrdd’ ar waith.
Cafodd yr adroddiad diweddaru ei gadarnhau gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cyngor mewn cyfarfod ar 25 Hydref.
Yn yr adroddiad, mae nifer o fentrau sydd wedi cael eu cyflawni'n llwyddiannus gan y Cyngor ers gweithredu ei Strategaeth Seilwaith Gwyrdd ym mis Tachwedd 2020. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys plannu coed ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a Groundwork Cymru, lle bu gwirfoddolwyr yn plannu tua 4,500 o goed yn yr ardal.
Hefyd, lansiodd Tîm Cefn Gwlad y Cyngor ei ymgyrch 'Plannu Llain er budd Peillwyr' yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021. Nod yr ymgyrch oedd ailgysylltu trigolion, busnesau ac ysgolion â byd natur drwy dyfu llain o flodau gwyllt a chreu leiniau bach o ddolydd, gan ddarparu blodau brodorol â chyfoeth o neithdar a phaill ar gyfer peillwyr.
Hefyd yn ystod yr haf diwethaf, lansiodd y tîm ymgyrch ‘Priffordd Draenogod’, lle roedd pecynnau ar gael i drigolion greu priffyrdd lleol hygyrch ar gyfer draenogod. Roedd pob pecyn yn cynnwys plac i amgylchynu'r twll mewn ffensys i ddraenogod gael mynediad at erddi, twnnel arolygu, a chanllaw adnabod ar gyfer olion traed, gan greu coridorau bywyd gwyllt newydd a chysylltiadau â'r rhai presennol.
Mae gwaith hefyd wedi’i wneud, fel rhan o gynllun Grant Gwent Gydnerth, ar hyd tair afon allweddol y Fwrdeistref Sirol: Afon Rhymni, Afon Sirhywi ac Afon Ebwy. Mae hyn wedi cynnwys glanhau'r afonydd a gosod blychau ar gyfer siglennod, trochwyr a dyfrgwn ar hyd coridorau'r afonydd.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Fannau Gwyrdd, “Mae’r adroddiad hwn yn amlygu maint y gwaith sy’n cael ei wneud yn y Fwrdeistref Sirol gan Dîm y Strategaeth Mannau Gwyrdd. Mae gofalu am yr amgylchedd a lleihau ein hôl troed carbon yn gyfrifoldeb i bawb ac mae’n wych gweld yr amrywiaeth o brosiectau sy’n cael eu cynnal gennym ni fel Cyngor, ond hefyd y rhai sy’n ymgysylltu â thrigolion a chymunedau lleol.
“Mae’r tîm hefyd yn gwneud llawer iawn o waith ar lefel strategol i ystyried rheoli a gwella yn y dyfodol ar gyfer mannau gwyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol. Cafodd seminar ei gynnal yn diweddar i aelodau hefyd, gyda sawl un yn mynychu, lle’r oedd Cynghorwyr yn hynod gefnogol i’n gwaith ar fioamrywiaeth.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y