Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2022
Cabinet yn cymeradwyo gwell bwerau gorfodi
News Centre
Cabinet yn cymeradwyo gwell bwerau gorfodi
Postiwyd ar : 11 Hyd 2022
Mae pwerau gorfodi wedi’u gwella ym mwrdeistref sirol Caerffili, diolch i gymeradwyaeth Cabinet y Cyngor.
Yn ystod cyfarfod ar 5 Hydref, cymeradwyodd aelodau’r Cabinet bwerau ychwanegol i swyddogion o fewn Is-adran Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor o dan y Deddfau Seneddol canlynol, er mwyn gorfodi’r ddeddfwriaeth a chyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â'r canlynol:
Deddf Arfau Ymosodol 2019 - mae hon yn cynnwys mesurau deddfwriaethol newydd i reoli gwerthiant cyllyll a chynhyrchion cyrydol, ac mae'n cyflwyno troseddau newydd yn ymwneud â'u meddiant a'u defnydd. Mae’r Ddeddf yn creu trosedd newydd o werthu cynnyrch cyrydol i berson o dan 18 oed.
Deddf Meddyginiaeth a Dyfeisiau Meddygol 2021 - Mae’r Ddeddf wedi’i dwyn i rym yn sylweddol er mwyn galluogi cyhoeddi nifer o hysbysiadau gorfodi i bobl sy’n gyfrifol am farchnata a chyflenwi Dyfeisiau Meddygol sydd ddim yn cydymffurfio â safonau perthnasol.
Deddf Ynni 2011 - Mae’r Rheoliadau’n sefydlu lefel isaf o effeithlonrwydd ynni ar gyfer eiddo domestig ac annomestig, sy’n cael ei rentu’n breifat ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r rhai sydd isaf ar y rhestr o ran effeithlonrwydd ynni h.y. y rhai sydd â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o F neu G.
Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhenti Tir) 2022 - Mae’r Ddeddf yn rhoi diwedd ar renti tir ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo lesddaliad preswyl hir newydd yng Nghymru a Lloegr a bydd yn gwneud perchentyaeth yn decach ac yn fwy tryloyw i filiynau o lesddeiliaid yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd “Mae’r newidiadau hyn i Gyfansoddiad y Cyngor nid yn unig yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion statudol, ond hefyd yn rhoi’r awdurdod sydd ei angen ar ein swyddogion i orfodi’r pwerau hyn yn effeithiol er mwyn diogelu ein trigolion.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y