Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2022
Grŵp cyswllt â chymunedau Bryn am gael ei sefydlu
News Centre
Grŵp cyswllt â chymunedau Bryn am gael ei sefydlu
Postiwyd ar : 19 Hyd 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau ymgysylltu â’r gymuned er mwyn mynd i’r afael â phryderon lleol sydd wedi'u codi ynghylch Bryn Group, gan gynnwys sefydlu grŵp cyswllt sy’n cynnwys trigolion a rhanddeiliaid eraill.
Mae Bryn Group, sydd wedi ei leoli yng Ngelligaer, yn gweithredu gwaith trosglwyddo a thrin gwastraff, yn ogystal â fferm laeth a chwarel ar y safle. Mae’r safle’n un cymhleth gyda sawl gweithrediad a gweithgaredd, sy’n cael eu rheoleiddio’n rhannol gan dimau Iechyd yr Amgylchedd a Chynllunio’r Cyngor ac yn rhannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn ystod cyfarfod ar 19 Hydref, cytunodd aelodau'r Cabinet ar nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r pryderon yn y gymuned ynghylch gwaith Bryn Group. Yn ogystal â sefydlu grŵp cyswllt, cytunodd y Cabinet i sefydlu tudalen we bwrpasol gyda gwybodaeth am waith y cyrff rheoleiddio sy'n gyfrifol am wahanol elfennau o'r safle. Mae ymweliadau Cynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd hefyd wedi'u cynllunio, er mwyn i bobl gael gwell dealltwriaeth o sut mae'r safle'n gweithredu.
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, “Mae’r Cyngor yn cydnabod pryderon sy’n cael eu codi gan y gymuned leol ac rydyn ni'n rhoi ein sicrwydd ni bod y rhain yn cael eu trin. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â thrigolion, aelodau etholedig lleol a Bryn Group i fynd i’r afael â materion o’r fath a'r Cabinet yn cymeradwyo datblygu’r cynlluniau hyn yw’r cam cyntaf yn y broses hon.”
Ychwanegodd Jennifer Price, o Bryn Power Ltd, “Rydyn ni’n croesawu ailddechrau’r grŵp cyswllt ar ôl seibiant mor hir. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd yn manteisio ar y cyfle i ymweld â’r safle. Mae diddordeb mawr gennym ni mewn gweld a fydd y dudalen we yn helpu drosglwyddo gwybodaeth o’r grŵp cyswllt yn ôl i’r gymuned a’r cyhoedd ehangach ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y