Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2021
Clerc Ysgol Gynradd yn derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru
News Centre
Clerc Ysgol Gynradd yn derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru
Postiwyd ar : 25 Tach 2021
Mae Lisa Williams, clerc ysgol yn Ysgol Gynradd Glyn-Gaer wedi derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru.
Cydlynir Wythnos Gwrth-fwlio yng Nghymru a Lloegr gan y Gynghrair Gwrth-Fwlio ac fe’i cynhelir rhwng 15-19 Tachwedd 2021 a thema eleni oedd ‘One Kind Word’. Dewiswyd y thema hon oherwydd bod yr unigedd a brofir yn ystod y pandemig wedi tanlinellu taw wrth wneud pethau bach rydym yn gallu chwalu rhwystrau a bywiogi bywydau'r bobl o'n cwmpas.
Cynhaliwyd yr Wythnos Gwrth-fwlio hon y Wobr Staff Ysgol Cymru gyntaf erioed mewn partneriaeth â ‘BulliesOut’. Gallai disgyblion enwebu athrawon a staff ysgolion yng Nghymru sydd wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau i atal ac ymateb i fwlio ac i godi ymwybyddiaeth o fwlio yn yr ysgol.
Derbyniodd Ms Williams enwebiad gan Molly May, Llysgennad Gwrth-fwlio Ysgol Gynradd Glyn-Gaer; yn ei henwebiad, ysgrifennodd Molly:
“Mae Ms Williams yn garedig ac yn gyfeillgar ac mae bob amser yn sicrhau bod y plant yn garedig â'i gilydd. Mae hi'n fodel rôl dda iawn ac yn dangos i ni sut i fod yn garedig ac yn ddoniol. Os ydym yn drist neu'n unig neu'n poeni, bydd hi’n sicrhau bod ni’n iawn ac yn rhoi gwybod i'n rhieni. Mae hi'n gwneud i ni wenu pan rydyn ni'n drist ac mae hi'n ein helpu ni i wneud ffrindiau gyda phlant eraill. ”
Bydd Ms Williams yn derbyn tlws wedi’i engrafu, tystysgrif mewn ffrâm ac arhosiad dros nos gyda brecwast Cymreig llawn a defnydd o’r sba yng Ngwesty a Sba 5* St David’s ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Beverly Pearce, Pennaeth Ysgol Gynradd Glyn-Gaer, “Mae'r holl ddisgyblion a staff wrth eu boddau â Ms Williams; mae'r wobr yn haeddiannol iawn fel y mae'r gydnabyddiaeth oherwydd ei bod yn mynd y tu hwnt i'w rôl fel clerc ysgol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu, “Rwy’n falch iawn bod gwaith Ms Williams yn erbyn bwlio wedi’i gydnabod gyda’r wobr wych hon; adlewyrchir eich ymdrechion beunyddiol yn enwebiad twymgalon Molly May. Hoffem ni yng Nghyngor Caerffili ddiolch i chi am yr effaith rydych chi wedi'i chael ar ddisgyblion ifanc yn Ysgol Gynradd Glyn-Gaer."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y