Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2021
Cyngor Caerffili yn buddsoddi'n sylweddol mewn addysg
News Centre
Cyngor Caerffili yn buddsoddi'n sylweddol mewn addysg
Postiwyd ar : 01 Tach 2021
Mae swm syfrdanol o £100 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn ysgolion a'r seilwaith addysg ledled y fwrdeistref sirol fel rhan o raglen uchelgeisiol Llunio Lleoedd y Cyngor.
Lansiwyd ymgyrch newydd i dynnu sylw at rai o'r buddsoddiadau sylweddol sydd wedi cael eu gwneud ledled y fwrdeistref sirol – o ddatblygiadau ar raddfa fawr Ysgolion yr 21ain Ganrif i waith uwchraddio ar raddfa lai a chynlluniau gwella, ynghyd â darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg.
Mae un elfen allweddol o'r rhaglen Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad lleol ystyrlon sy'n ystyried anghenion y gymuned ac yn anelu at wneud gwahaniaeth go iawn. Mae'r we-dudalen bwrpasol yn cynnig trosolwg o'r buddsoddiad er mwyn rhannu'r cefndir â thrigolion a'u galluogi i ddeall yn well ble a phryd y cafodd yr arian ei wario.
Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Hamdden, “Mae'r buddsoddiad sydd eisoes wedi cael ei wneud mewn addysg yn brawf o'n hymrwymiad i gefnogi ein trigolion ifanc i wella, cyflawni a chael eu hysbrydoli yn ystod eu taith addysgol. Mae'r rhaglen Llunio Lleoedd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau, a megis dechrau y mae'r gwaith. Nod ymgyrch Llunio Lleoedd yw dangos i'n trigolion ble mae'r arian wedi cael ei fuddsoddi er mwyn i ni allu gweithio gyda'n gilydd i nodi bylchau a chynllunio ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae'n gyfnod cyffrous i drigolion lunio'r dyfodol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”
Ychwanegodd, “Mae codi safonau addysg yn flaenoriaeth strategol allweddol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – a gyda'ch help chi, gallwn sicrhau dyfodol disglair i blant a phobl ifanc y Fwrdeistref Sirol.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y