Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2021
Adeiladwr o Goed Duon yn derbyn Dedfryd Carchar Ataliedig
News Centre
Adeiladwr o Goed Duon yn derbyn Dedfryd Carchar Ataliedig
Postiwyd ar : 29 Tach 2021
Mae dyn o Goed Duon wedi’i ddedfrydu mewn perthynas â chyhuddiadau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a Deddf Cwmnïau 2006.
Cafwyd yr Adeiladwr Lleol, David Hughes (50 oed) o Pen-y-Cwarel Road, Wyllie, yn euog o 5 cyhuddiad o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn Llys Ynadon Casnewydd ar 11 Tachwedd .
Yn flaenorol, roedd Hughes, a oedd yn masnachu fel DH Builders, wedi pledio'n euog i 5 cyhuddiad o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a 2 gyhuddiad o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 ond ni osodwyd cosb bellach am y Troseddau Deddf Cwmnïau.
Dedfrydwyd Hughes i 4 mis o garchar wedi'i ohirio am 2 flynedd. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu iawndal o £12,500 i'r ddau ddioddefwr a hefyd £2,500 o gostau i Safonau Masnach a gordal o £115.
Derbyniodd Tîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gŵyn gan breswylydd yn Llanbradach yn gynnar yn 2019 ynghylch gwaith yr oedd Hughes wedi ei gontractio i’w wneud. Y contract oedd adeiladu wal ardd a gwneud gwaith patio a gwaith arall; Talwyd £ 2500 i Hughes ymlaen llaw. Ni chafodd yr holl waith ei gwblhau ac nid oedd y palmant a gwblhawyd o safon digon da.
Yn ystod yr ymchwiliad, derbyniwyd cwyn hefyd gan un o drigolion Kilgetty yn Sir Benfro. Yn yr achos hwn, talwyd £10,000 ymlaen llaw i Hughes i drawsnewid llofft. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y gwaith ac ni ymatebodd Hughes i geisiadau i ad-dalu'r arian.
Roedd Rheoliadau Taliadau 2008 yn ymwneud â methu â rhoi Rhybudd o Hawliau Canslo i ddefnyddwyr, methu ag ymgymryd â gwaith y talwyd amdano ac mewn perthynas â gwaith a wnaed, na chafodd ei wneud gyda diwydrwydd proffesiynol.
Roedd y Ddeddf Cwmnïau yn ymwneud â derbynebau a roddwyd gan Hughes nad oeddent yn cynnwys ei enw a'i gyfeiriad.
Dywedodd y Cyng Nigel George, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, “Dyma enghraifft wych arall o'r gwaith rhagorol y mae ein Tîm Safonau Masnach yn ei wneud i sicrhau lles ein trigolion. Mae'n bwysig ein bod ni’n ymchwilio i gwynion ac yn cymryd y camau angenrheidiol yn ôl yr angen. Rydyn ni’n falch gyda phenderfyniad y Llys ac yn gobeithio y bydd yn gweithredu fel rhybudd i fasnachwyr eraill.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y