Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Postiwyd ar : 10 Mai 2024
Cllr Julian Simmonds, Mayor Caerphilly County Borough Council
Mae Julian Simmonds wedi'i gyhoeddi fel Maer newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Derbyniodd Julian, sy'n cynrychioli ward Crosskeys, y swydd pennaeth dinesig yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor neithiwr (nos Iau 9 Mai).
Dywedodd y Cynghorydd Julian Simmonds, “Mae'n anrhydedd ac yn fraint i wasanaethu fel Maer y Fwrdeistref Sirol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Rydw i'n edrych ymlaen at gofleidio'r rôl a chwrdd â chynifer o drigolion â phosibl mewn achlysuron dinesig a ledled ein cymunedau."
Y Dirprwy Faer yw'r Cynghorydd Dawn Ingram-Jones, sy'n cynrychioli ward Aberbargod a Bargod.
Fe wnaeth y Cyngor hefyd gytuno i benodi Aelod Llywyddol (a Dirprwy Aelod Llywyddol) i strwythur y Cyngor. Bydd y Cynghorydd Colin Gordon yn gweithredu fel Aelod Llywyddol a'r Cynghorydd Liz Aldworth fel Dirprwy Aelod Llywyddol.
Bydd yr Aelod Llywyddol yn gyfrifol am swyddogaethau gweinyddol fel rôl Cadeirydd y Cyngor, gan gynnwys cadeirio cyfarfodydd y Cyngor llawn a sicrhau bod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â chyfansoddiad y Cyngor.
Bydd ychwanegu Aelod Llywyddol yn caniatáu i’r Maer weithredu fel pennaeth seremonïol y Cyngor a chynrychioli'r Cyngor yn yr holl ddigwyddiadau dinesig a seremonïol.