Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2024
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth
News Centre
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Postiwyd ar : 08 Mai 2024
Mewn cyfarfod cabinet, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 1 Mai 2024, hysbysodd Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili (Gwasanaeth Ieuenctid) y Cabinet am y materion a gafodd eu codi gan bobl ifanc yn y Fwrdeistref Sirol, a thynnu sylw at eu mater blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn.
Mae'r Fforwm Ieuenctid yn galluogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 i fynegi eu barn ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw. Bob blwyddyn, mae syniadau a materion pobl ifanc yn cael eu nodi mewn ymgynghoriad ledled y Fwrdeistref Sirol gyfan, wedi'u strwythuro a'u trefnu o amgylch pum thema: Caerffili Ffyniannus; Caerffili Saffach; Caerffili sy'n Dysgu; Caerffili Iachach; a Chaerffili Wyrddach.
Yn dilyn Cynhadledd Flynyddol y Fforwm Ieuenctid ym mis Ionawr 2024, nododd pobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Caerffili faterion cyfredol sy'n bwysig iddyn nhw a phleidleisio ar fater blaenoriaeth ar gyfer 2024. Cymerodd 2,428 o bobl ran yn y bleidlais ledled y Fwrdeistref Sirol gyfan, gyda'r mwyafrif (28%) yn pleidleisio ar gyfer Caerffili sy'n Dysgu: Cyffuriau – rhagor o ymwybyddiaeth am y peryglon o gyffuriau (er enghraifft, fêps gyda sylweddau peryglus a chanabis), yn ogystal â llinellau cyffuriau i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ac allan ohoni, fel eu mater blaenoriaeth.
Yn dilyn y bleidlais i nodi'r mater blaenoriaeth cyffredinol, ymgynghorodd Grŵp Prosiect y Fforwm Ieuenctid ymhellach â phobl ifanc, drwy gynghorau ysgol a'r Gwasanaeth Ieuenctid, i archwilio'r mater a chael mewnwelediad mwy gwybodus o ran pam bod hwn yn fater o bryder i bobl ifanc.
Roedd rhai o'r themâu cyffredin a ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad yn canolbwyntio'n bennaf ar fepio, ac yn cynnwys:
Mynediad at fêps a'u fforddiadwyedd mewn siopau cornel, bariau fêps neu siopau fêps.
Diffyg gwiriadau adnabod oedran yn cael eu cynnal yn y man gwerthu, gan gynyddu argaeledd i bobl ifanc.
Apêl fêps trwy flasau a lliwiau sy'n targedu pobl ifanc.
Pwysau gan gyfoedion a normaleiddio fepio ymhlith pobl ifanc.
Ymddygiadau fepio ar drafnidiaeth gyhoeddus/cludiant ysgol ac yn y gymuned/mewn ysgolion.
Sbwriel fêps yn arwain at blant iau yn eu codi nhw.
Dros y misoedd diwethaf, bydd Grŵp Prosiect y Fforwm Ieuenctid yn dyfeisio rhaglen waith sy'n ymarferol i bobl ifanc ei chyflawni drwy gydol 2024, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r mater blaenoriaeth.
Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â nifer o wasanaethau'r Awdurdod Lleol a gwasanaethau partner, gan gynnwys: Safonau Masnach, Ysgolion Iach, y Bwrdd Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y grŵp yn ystyried y gwaharddiad arfaethedig ar werthu fêps untro, addysg ar beryglon ac effaith niweidiol fepio, a phrynu fêps dan oed mewn busnesau bach ledled y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Hyrwyddwr Ieuenctid, "Roedd yn wych cael y Fforwm Ieuenctid yn y Cabinet yr wythnos hon, ac i Aelodau gael gwell dealltwriaeth o'r materion sy'n achosi pryder i'r bobl ifanc yn ein Bwrdeistref Sirol.
"Cyfarfod heddiw oedd penllanw eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf ac mae'n rhywbeth rydw i'n falch iawn o fod yn rhan ohono.
"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Fforwm Ieuenctid i fynd i'r afael â'r materion sy'n cael eu nodi gan bobl ifanc, yn enwedig Caerffili sy'n Dysgu: Cyffuriau, a gafodd ei amlygu ganddyn nhw fel eu mater blaenoriaeth."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y