Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2023
Maer newydd Caerffili yn dewis elusen y flwyddyn
News Centre
Maer newydd Caerffili yn dewis elusen y flwyddyn
Postiwyd ar : 17 Mai 2023
Mae Maer newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Mike Adams, wedi datgelu ei elusen ddewisol ar gyfer y flwyddyn, sef Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion.
Derbyniodd Mike swydd y pennaeth dinesig yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Iau 11 Mai. Mae wedi dewis y Gymdeithas Cŵn Tywys fel yr elusen ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd ar ôl eu cefnogi fel unigolyn am nifer o flynyddoedd. Mae’n gobeithio y bydd pobl y Fwrdeistref Sirol yn ymuno ag ef a Gloria yn 2023-24 i godi rhywfaint o’r arian sydd ei angen i fridio, maethu a hyfforddi cŵn bach er mwyn rhoi’r hyder a’r cymorth angenrheidiol i ragor o bobl sydd â nam ar eu golwg fel eu bod nhw'n byw eu bywydau’n annibynnol ac i'r eithaf.
Dywedodd y Cynghorydd Adams, “Mae’n anrhydedd mawr cael gwasanaethu fel Maer y Fwrdeistref Sirol am y flwyddyn i ddod, ac ynghyd â fy ngwraig Gloria, rydw i'n edrych ymlaen at gynrychioli Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i dinasyddion yn yr ymrwymiadau dinesig niferus ac amrywiol rydyn ni'n gobeithio y daw yn y flwyddyn i ddod. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â sefydliadau a thrigolion lleol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau nhw."
Ar ôl gweithio yn South Wales Switchgear rhwng 1966 a 1992, daeth Mike yn fyfyriwr hŷn, gan gwblhau gradd BA mewn Daearyddiaeth ac Astudiaethau Ewropeaidd ym 1996, gan raddio ar lefel 2:1.
Ers hynny, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys cyfnod byr yn hunangyflogedig a chyfnod dros dro gyda phlaid Llafur Cymru, cyn dychwelyd i fyd peirianneg ac, yn y pen draw, i wasanaeth sifil. Yn ystod y cyfnod diwethaf hwnnw, safodd Mike fel ymgeisydd Llafur ym Mhontllan-fraith a chael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2004. Mae wedi parhau i gynrychioli trigolion ward Pontllan-fraith ers hynny. Fe ymddeolodd Mike o gyflogaeth yn 2017.
Yn briod â'i wraig Gloria ers 50 mlynedd, mae ganddyn nhw ddau fab gyda'i gilydd. Ar ôl chwarae rygbi a chriced yn yr ysgol, mae Mike yn parhau i fod yn gefnogwr chwaraeon brwd, a, phan nad yw’n cyflawni ei ddyletswyddau yn cynrychioli etholwyr, mae modd dod o hyd iddo yn gwylio pêl-droed yn aml. Mae hefyd yn mwynhau darllen (yn enwedig nofelau gwleidyddol cyffrous) a cherdded ar y penwythnos mewn ardaloedd gwledig lleol.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y