Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2023
Gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer sgwâr Trinant
News Centre
Gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer sgwâr Trinant
Postiwyd ar : 12 Mai 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu cynlluniau i wella'r sgwâr yn Nhrinant, fel rhan o'i raglen gwelliannau amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Mae'r cynlluniau'n cynnwys adnewyddu'r ardaloedd o gwmpas y coed ar flaen y sgwâr, tynnu coblau, a gosod meinciau, rheiliau, biniau, rhesel feiciau a cholofnau golau newydd. Mae cynlluniau hefyd i ostwng y camau crwm a'u disodli â charreg gyda chanllaw dur wedi’i frwsio.
Y bwriad yw dechrau’r gwaith tua 15 Mai, yn dibynnu ar y tywydd, gyda disgwyl iddo gael ei gwblhau ddiwedd yr haf. Bydd rhywfaint o darfu yn ystod y gwaith, ond mae'r Cyngor yn sicrhau trigolion y bydd yn gwneud ei orau glas i leihau hyn cymaint â phosibl. Bydd mynediad ar gael i siopau, Canolfan Gymunedol Trinant a’r lleoliad Dechrau'n Deg drwyddi draw.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Drwy’r rhaglen SATC, cafodd dros £260 miliwn ei fuddsoddi mewn cartrefi a chymunedau sy'n eiddo i'r Cyngor ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Er bod y brif raglen wedi ei chwblhau, rydyn ni’n dal i gyflawni prosiectau amgylcheddol a gafodd eu nodi fel blaenoriaethau gan gymunedau lleol yn ystod ymgynghori blaenorol.
"Bydd y gwaith sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Trinant yn gwella golwg a hygyrchedd yn ardal y sgwâr, gan fod o fudd i drigolion a busnesau lleol."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y