Ffaglau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines
Postiwyd ar : 30 Mai 2022
Ffaglau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines
Bydd tair ffagl yn llosgi’n llachar ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer Jiwbilî Blatinwm y Frenhines nos Iau, 2 Mehefin.
Bydd y ffaglau wedi'u lleoli yn:
- Copa Twmbarlwm ger Rhisga
- Eglwys Sannan Sant, Bedwellte
- To Tŷ Penallta, swyddfeydd y Cyngor yn Ystrad Mynach
Bydd y ffaglau'n cael eu goleuo am 9.45pm ym mhob un o'r tri safle.
Bydd y Maer ac Uchel Siryf Gwent yn mynychu'r seremoni goleuo yn Nhŷ Penallta.
Dywedodd y Cynghorydd Liz Aldworth, Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o'r dathliad pwysig hwn. Nid yw ond yn briodol bod y garreg filltir unigryw hon mewn hanes yn cael ei nodi â ffaglau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r digwyddiad arbennig hwn ar gyfer Ei Mawrhydi, blwyddyn 70 y Frenhines fel ein Brenhines a Phennaeth y Gymanwlad ar ei Jiwbilî Blatinwm.”
Dywedodd Bruno Peek LVO OBE OPR Pasiantfeistr Ffaglau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines, “Gan adeiladu ar draddodiad hir o oleuo ffaglau i nodi dathliadau brenhinol arwyddocaol, bydd miloedd o ffaglau’n cael eu goleuo ledled y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad. Byddan nhw'n galluogi cymunedau lleol i ddod ynghyd i dalu teyrnged i'w Mawrhydi fel rhan o'r rhaglen swyddogol o ddigwyddiadau.
“Mae’r Frenhines wedi goleuo ein bywydau ers 70 mlynedd drwy ei gwasanaeth a’i hymrwymiad ymroddedig. Hoffem ni oleuo’r genedl a’r Gymanwlad er anrhydedd iddi.”