Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2022
Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change - Addewid mis Mai
News Centre
Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change - Addewid mis Mai
Postiwyd ar : 13 Mai 2022
Bob mis byddwn yn herio staff a phreswylwyr i wneud un newid bach i helpu i wella eu defnydd a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg ac i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fod yn lle cynhwysol i weithio a byw ynddo.
Fis yma, mae gennym ni ddau addewid ar wahân – un ar gyfer y Gymraeg ac un ar gyfer Cydraddoldeb – mae'r ddau i'w gweld isod. Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n gallu cymryd rhan.
Fis yma, rydw i'n addo dechrau a chloi pob cyfarfod ar Teams yn Iaith Arwyddion Prydain.
I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, 2–8 Mai 2022, hoffem ni achub ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o fyddardod, colli clyw a thinitws fis yma ac esbonio sut y gallwch chi gefnogi pobl rydych chi'n gweithio gyda nhw.
Mae tua 12 miliwn o bobl yn fyddar neu â nam ar eu clyw, sy'n golygu bod un oedolyn ym mhob pump yn y Deyrnas Unedig yn cael ei effeithio yn uniongyrchol, felly, rydych chi'n debygol o gwrdd â rhywun bob dydd, er efallai nad ydych chi'n ymwybodol o hynny.
Gall pobl fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â thinitws wynebu gwahanol heriau cyfathrebu wrth weithio gartref, a all arwain at rwystredigaeth ac unigrwydd.
Os ydych chi'n gweithio gartref, efallai y byddai'n ddefnyddiol ichi siarad â'ch cydweithwyr am y ffordd orau o gyfathrebu â chi dros alwadau fideo a llais. Efallai y byddai'n ddefnyddiol rhannu'r awgrymiadau hyn:
Ar alwad fideo, gwnewch yn siŵr eich bod chi mewn man sydd wedi'i oleuo'n dda, ond peidiwch ag eistedd gyda golau y tu ôl ichi – gall hyn roi eich wyneb yn y cysgod a'i gwneud hi'n anoddach i rywun ddarllen gwefusau.
Wynebwch y camera a pheidio â gorchuddio'ch ceg wrth siarad.
Gwnewch yn siŵr dim ond un person sy'n siarad ar y tro – gall hyn hefyd helpu sicrhau bod capsiynau'n fwy cywir, os ydyn nhw'n cael eu defnyddio.
Cofiwch dewi eich meicroffon pan na fyddwch chi'n siarad i leihau sŵn cefndir.
Defnyddiwch y swyddogaethau sgwrsio, os ydyn nhw ar gael, wrth ddefnyddio meddalwedd fideo neu lais – maen nhw'n gallu helpu egluro manylion, yn enwedig o ran rhifau.
Fis yma, rydw i'n addo gwrando ar orsaf radio Gymraeg
Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o gyflwyno'ch hun i iaith newydd. Cyfarchion cyfeillgar, caneuon bachog, a mwy – mae gwrando ar orsaf radio Gymraeg wrth goginio neu wrth gludo'r plant i'r ysgol yn ffordd berffaith o ddysgu bach o'r iaith. Rhowch gynnig arni a gweld sut hwyl rydych chi'n ei chael.
Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain dilynwch @CaerphillyCBC ar Facebook a Twitter.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y