Maes Parcio'r Emporium, Bargod – ar gau yn rhannol
Postiwyd ar : 03 Maw 2024
Afael â'r cafn blodau diffygiol ym Maes Parcio'r Emporium.
Mae peirianwyr, adran Menter Fusnes ac Adnewyddu ac adran Rheoli Traffig Cyngor Caerffili yn cydweithio i fynd i'r afael â'r cafn blodau diffygiol ym Maes Parcio'r Emporium.
Does dim perygl i ddefnyddwyr y maes parcio ar hyn o bryd. Mae'r gwaith monitro a'r ymchwiliadau tir yn awgrymu bod sylfaen y cafn blodau wedi sadio. Os na chaiff sylw ei roi i'r wal, bydd hi'n parhau i sadio ac, o bosibl, yn dymchwel gan arwain at orfod cau'r maes parcio ar frys a gwneud gwaith atgyweirio ar ardal fwy.
Mae'r gwaith wedi'i rhaglennu i ddechrau ar 4 Mawrth 2024, ac mae disgwyl iddo bara am hyd at uchafswm o 8 wythnos. Bydd pob parti yn ymdrechu i leihau'r rhaglen hon, lle bynnag y bo'n ymarferol ac yn ddiogel i wneud hynny.
Er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel, bydd y contractwr yn meddiannu rhan ogleddol y maes parcio am gyfnod y gwaith. Bydd y rhan o'r maes parcio uwchben y neuadd snwcer ar agor fel arfer.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01443 815588 neu e-bostio crm@caerffili.gov.uk.
Diolch yn fawr am eich amynedd yn ystod y gwaith hwn.