Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2024
Cydnabod yn swyddogol safle sy'n coffáu'r miloedd o fywydau a gollwyd, fel Gardd Goffa Genedlaethol
News Centre
Cydnabod yn swyddogol safle sy'n coffáu'r miloedd o fywydau a gollwyd, fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru
Postiwyd ar : 12 Maw 2024
Mae gardd goffa yn Senghennydd, sy'n coffáu'r rhai a fu farw yn y trychineb gwaethaf yn hanes glofeydd Prydain, wedi cael y "gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu" ac wedi ei chydnabod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.
Agorwyd gardd goffa'r pentref yn swyddogol ar ganmlwyddiant y trychineb a ddigwyddodd yn 1913 pan laddwyd 439 o lowyr gan damchwa a rwygodd Glofa'r Universal.
Nawr, mae wedi cael ei hychwanegu at y Gofrestr Statudol o Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru a'i chymeradwyo gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden i fod yn safle i gofio'r miloedd lawer a fu farw mewn trychinebau mewn glofeydd ledled Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Mae glofeydd yn rhan fawr o'n hunaniaeth fel cenedl. Dros ganrif ar ôl trychineb Senghennydd, ac wrth i ni nodi 40 mlynedd ers streiciau'r glowyr, mae gwaddol y diwydiant glo yn dal i fod yn rhan ganolog o hanes Cymru."
"Priodol felly yw bod safle o bwysigrwydd symbolaidd fel Gardd Goffa Lofaol Genedlaethol Cymru yn cael ei chydnabod yn ffurfiol - gan anrhydeddu'r miloedd o lowyr fu farw mewn trychinebau glofaol ledled Cymru, tra'n cadw'r diwylliant a'r cof am gymunedau glofaol yn fyw."
Mae'r safle'n cynnwys cerflun efydd, sydd yn darlunio gweithiwr achub yn helpu glöwr sydd wedi goroesi'r danchwa, wal goffa yn coffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn y ddau drychineb a fu yn Senghennydd, yn 1901 a 1913, a llwybr cofio gyda theilsen ar gyfer pob un o'r 152 o drychinebau glofaol sydd wedi digwydd ledled Cymru.
Cyfrannodd llawer o awdurdodau lleol at yr ymgyrch codi arian pan sefydlwyd yr ardd goffa yn 2013 ac wrth ymweld â'r ardd ac ag Amgueddfa Treftadaeth Cwm Aber gerllaw, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:
"Rydym yn ymwybodol bod yr ardd goffa yn coffáu nid yn unig y rhai a fu farw yn Senghennydd, ond hefyd y rheini a laddwyd mewn trychinebau ar hyd a lled Cymru."
"Mae'n safle cyhoeddus pwysig ar gyfer coffáu a chofio ac mae iddo rôl bwysig i gysylltu pobl â'r gorffennol. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi'r gydnabyddiaeth iddo y mae'n ei haeddu."
Ychwanegodd Gill Jones, o Grŵp Treftadaeth Cwm Aber:
"Rydym mor falch bod ein Gardd Goffa wych bellach yn 'Ardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru' ac wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru."
"I ymroddiad a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, sy'n treulio oriau lawer ym mhob tywydd i'w chynnal at y safonau uchel sy'n ofynnol ar gyfer anrhydedd o'r fath, y mae'r diolch."
Mae'n waddol barhaol gan ein gwirfoddolwyr i'r 530 o ddynion a bechgyn a laddwyd yn nhrychinebau Glofa'r Universal yn 1901 a 1913, yn ogystal â'r miloedd lawer a fu farw mewn trychinebau ledled meysydd glo Cymru. Mae pob un o'r trychinebau hynny wedi'u rhestru yn yr ardd.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y