Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2024
Gweithgareddau Gwyliau'r Pasg
News Centre
Gweithgareddau Gwyliau'r Pasg
Postiwyd ar : 27 Maw 2024
Mae'n bleser gennym ni gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau difyr i ddiddanu'r plant a’u cadw’n egnïol yn ystod gwyliau'r Pasg. Anturiaethau yn y pwll nofio, Cynlluniau Chwaraeon, a mwy – mae'r arlwy'n addo wythnos sy'n llawn chwerthin, dysgu a chyfeillgarwch i drigolion ifanc ein cymuned fywiog.
Dullbyw Hamdden -
Gweithgareddau Yn Y Pwll Nofio:
Ymunwch â ni ar ochr y pwll, wrth i ni gynnal gweithgareddau ar draws cyfleusterau Dull Byw Hamdden. Bydd ein hyfforddwyr yn arwain cyfres o weithgareddau yn y dŵr a hwyl ar ochr y pwll. Mae'n gyfle perffaith i blant ymdrwytho ym myd nofio a magu hyder yn y dŵr.
Gallwch weld ein Rhaglen Nofio Gwyliau’r Pasg yma:
https://bit.ly/4a78QE8
I gadw lle mewn gweithgareddau yn y pwll yn ystod hanner tymor, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
neu gysylltu â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol.
Chwaraeon Caerffili – Cynlluniau Chwaraeon:
Camwch i fyd chwaraeon gyda thîm Chwaraeon Caerffili. Yn ystod gwyliau'r Pasg eleni mae ein Cynlluniau Chwaraeon yn cynnig cyfle i blant 7-12 oed roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon, lle bydd ein hyfforddwyr medrus yn arwain plant i feithrin sgiliau gwaith tîm, cydsymud, a chariad at weithgarwch corfforol. Drwy ganolbwyntio ar hwyl a meithrin sgiliau, mae'n gyfuniad buddugol ar gyfer hanner tymor egnïol a phleserus.
Cynllun Chwaraeon y Pasg - £9.35 y dydd:
Dydd Llun 25 Mawrth – dydd Gwener 5 Ebrill 9am – 3pm yng Nghanolfan Hamdden Caerffili, Canolfan Hamdden Heolddu, Ysgol Uwchradd Islwyn a Chanolfan Hamdden Rhisga
I gadw lle ar gyfer y Cynllun Chwaraeon y Pasg, defnyddiwch yr
Ap Dullbyw Hamdden
neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01443 863072 neu e-bostio
chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk
.
Cynllun Chwaraeon Anabledd - £9.14 y dydd:
Dydd Llun 25 Mawrth, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
Dydd Mawrth 26 Mawrth, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
Dydd Mercher 27 Mawrth, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
Dydd Mawrth 2 Ebrill, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
Dydd Mercher 3 Ebrill, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
I gadw lle ar gyfer y Cynllun Chwaraeon Anabledd, defnyddiwch yr
Ap Dullbyw Hamdden
neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01443 863072 neu e-bostio
chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk
.
Anturiaethau Caerffili - Diwrnodau Antur Iau:
Cychwyn ar anturiaethau bythgofiadwy gydag Anturiaethau Caerffili! Mae ein Diwrnodau Antur Iau yn cynnig cyfle i blant 7-12 oed archwilio’r awyr agored yng Nghoedwig Cwmcarn. O sgiliau byw yn y gwyllt a theithiau cerdded antur i ganŵio a phadlfyrddio, mae rhywbeth at ddant pob fforiwr ifanc! Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn cyffro, dysgu, a hwyl ddiddiwedd ym myd natur.
Diwrnodau Antur Iau - £28.90 y dydd
Dydd Llun 25 Mawrth – dydd Iau 28 Mawrth 9am – 3pm yng Nghoedwig Cwmcarn
Dydd Mawrth 2 Ebrill – dydd Gwener 5 Ebrill 9am – 3pm yng Nghoedwig Cwmcarn
I gadw lle ar gyfer y Diwrnodau Antur Iau, defnyddiwch yr
Ap Dullbyw Hamdden
neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01495 271 234 neu e-bostio AnturiaethauCaerffili@caerffili.gov.uk.
I gofrestru a chadw lle i'ch plentyn yn y gweithgareddau cyffrous hyn, defnyddiwch yr wybodaeth cadw lle sydd wedi'i darparu. Gadewch i ni wneud gwyliau’r Pasg yn fythgofiadwy ar gyfer eich plentyn, gan greu atgofion parhaol sy'n llawn chwerthin, cyfeillgarwch, a hwyl egnïol yn y gymuned.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y