Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Ymweld â Phentref Gerddi newydd ym Mhontllan-fraith
News Centre
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Ymweld â Phentref Gerddi newydd ym Mhontllan-fraith
Postiwyd ar : 28 Maw 2023
Roedd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, wedi'i ymuno gan y Cynghorydd Sean Morgan, Chynghorwyr ward lleol Colin Gordon, Mike Adams, Pat Cook ac aelodau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am daith o gwmpas datblygiad Pentref Gerddi'r Siartwyr ym Mhontllan-fraith, gyda'r prif ddatblygwr, Lovell a'i bartner Pobl Group.
Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gynllun dylunio ac adeiladu sy'n cael ei gyflawni gan Lovell ar hen safle swyddfeydd y Cyngor ac sy'n cynnwys 123 o gartrefi a fydd yn cynnwys 40 o gartrefi ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely i'w gwerthu ar y farchnad agored, 40 o gartrefi rhanberchenogaeth fforddiadwy, a 43 o dai fforddiadwy i'w rhentu.
Mae'r datblygiad wedi'i ddylunio ar sail egwyddorion Pentref Gerddi, sy'n cyfuno dylunio traddodiadol â chrefftwaith cyfoes. Mae Pentrefi Gerddi yn creu lleoedd bywiog ac iach i fyw sydd wedi'u dylunio'n dda gyda thai fforddiadwy a mannau agored gwyrdd.
Ar ddydd Llun 20 Mawrth, roedd cynghorwyr a staff Cyngor Caerffili wedi cwrdd â Lovell a Pobl ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr, lle gawson nhw daith o gwmpas y safle, yr ystafell marchnata a chafodd ei lansio yn ddiweddar, a chartref arddangos 'Humberstone' â phedair ystafell.
Mae disgwyl i'r cartrefi cyntaf fod yn barod yr haf hwn, a gall prynwyr posibl gofrestru eu diddordeb nawr.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn ystod haf 2024. Mae'r prosiect yn rhoi cyfanswm o dros 6 lleoliad prentisiaeth a 128 wythnos o brofiad gwaith i bobl leol.
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, "Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn rhoi cartrefi o ansawdd uchel, mawr eu hangen, yn ogystal â darparu buddion ehangach i gymunedau lleol trwy'r bartneriaeth gryf sydd wedi'i datblygu rhwng y Cyngor, Pobl a Lovell."
Ychwanegodd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, "Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn ddatblygiad blaenllaw sy'n arddangos yr hyn sy’n gallu cael ei wneud trwy weithio mewn partneriaeth. Mae'n wych i weld y safle yn datblygu a hoffwn i ddweud diolch i Lovell a Pobl am ein gwahodd ni lawr heddiw."
Dywedodd James Duffett, rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell, “Rydyn ni'n falch iawn o ddechrau'r gwaith ar y cynllun tai anhygoel hwn ym Mhontllan-fraith ac yn edrych ymlaen at drawsnewid y safle tir llwyd yn Bentref Gerddi ffyniannus lle bydd preswylwyr yn cael budd o le gwell a thirweddau cyfagos o goed stryd, lleiniau glas, pwll dŵr a mannau gwyrdd agored cyhoeddus.
“Roedd yn wych i allu dangos Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r gwaith caled rydyn ni wedi’i wneud ar y safle hyd yn hyn. Ar ôl ei gwblhau, bydd Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gartref wych i'r bobl leol. Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft berffaith o sut mae gweithio mewn partneriaethau yn gallu bod yn fuddiol i'r gymuned, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal safon uchel o waith nes bydd y safle wedi'i gwblhau."
Meddai Rhys Parry, Cyfarwyddwr Datblygu (Dwyrain) Pobl Group, "Roedd yn hyfryd croesawu cynrychiolwyr y Cyngor i Bentref Gerddi'r Siartwyr a dangos iddyn nhw'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar y safle hyd yn hyn. Rydyn ni'n falch i fod yn cydweithio â Lovell ar y prosiect hwn i roi cartrefi fforddiadwy, o safon uchel ble mae pobl eisiau byw. Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hebddyn nhw ni fyddai datblygiadau fel hyn yn bosibl."
I gael rhagor o wybodaeth am Bentref Gerddi'r Siartwyr a'r cartrefi sydd ar gael.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y