News Centre

Sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod

Postiwyd ar : 07 Meh 2024

Sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog trigolion i sicrhau eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
 
Ddydd Iau 4 Gorffennaf, bydd pleidleiswyr yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio i ethol Aelod Seneddol (AS).
 
Os nad ydych chi ar y gofrestr etholiadol, ni fyddwch chi'n gallu pleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw 23:59 ddydd Mawrth 18 Mehefin. Gallwch chi wneud cais ar-lein mewn pum munud: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
 
Os nad ydych chi'n gallu pleidleisio mewn gorsaf pleidleisio ddydd Iau 4 Gorffennaf, gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Mae pleidleisio drwy'r post yn ffordd amgen gyfleus o bleidleisio yn lle pleidleisio'n bersonol.
 
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn eich galluogi chi i enwebu rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan. Y dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.
 
Os ydych chi'n bwriadu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rhaid i chi ddod â dull adnabod â llun. Ni fyddwch chi'n gallu pleidleisio hebddo. Mae rhestr o'r dulliau adnabod cydnabyddedig ar gael ar Wefan y Comisiwn Etholiadol. Os nad oes gennych chi ddull adnabod â llun cymwys, gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim erbyn 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.
 
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau 4 Gorffennaf. Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon i bawb sy'n gymwys i bleidleisio. Bydd y cerdyn pleidleisio yn rhoi manylion eich gorsaf bleidleisio.
 
Rhestr o ddyddiadau allweddol:
  • Dydd Gwener 7 Mehefin: Cyhoeddi'r sawl a enwebwyd.
  • Dydd Mawrth 18 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio.
  • Dydd Mercher 19 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais newydd i bleidleisio drwy'r post neu i newid/ganslo trefniant presennol i bleidleisio drwy’r post neu ddirprwy.
  • Dydd Mercher 26 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy.
  • Dydd Mercher 26 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Ddull Adnabod Pleidleisiwr am ddim.
  • Dydd Iau 4 Gorffennaf: Etholiad Cyffredinol.


Ymholiadau'r Cyfryngau