News Centre

Cymeradwyo cyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

Postiwyd ar : 11 Meh 2024

Cymeradwyo cyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn
Mae Ysgol Uwchradd Islwyn, yn Oakdale, ar fin elwa ar fan chwarae amlddefnydd a gwaith datblygu ardal gymorth arbenigol newydd i ddisgyblion.

Fe wnaeth Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gymeradwyo'n unfrydol gynigion i ddarparu cymorth ariannol, sydd werth £145,000, ar gyfer y prosiect o'r gronfa Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Cartrefi Caerffili, isadran dai'r Cyngor, fydd yn rheoli'r prosiect o ddatblygu'r cyfleusterau newydd. Bydd y man chwarae amlddefnydd yn disodli'r un ar safle hen Ysgol Gyfun Oakdale, wrth i'r safle tir llwyd gael ei drawsnewid gan Cartrefi Caerffili yn ddatblygiad tai deiliadaeth gymysg uchelgeisiol.

Bydd y man chwarae amlddefnydd newydd ar dir yr ysgol, a bydd modd i'r gymuned ei ddefnyddio y tu allan i oriau ysgol. Yn yr un lle, bydd yr ysgol yn datblygu cyfleuster cymorth amlddisgyblaethol i ddisgyblion a fydd yn galluogi a grymuso disgyblion i ddysgu, newid a rheoli eu bywydau yn fwy adeiladol.

Dywedodd Richard (Ed) Edmunds, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, “Wrth gynnig cynlluniau ar gyfer datblygu safle hen Ysgol Gyfun Oakdale, roedd ymrwymiad i gadw man chwarae amlddefnydd yn y gymuned.

“Roedd Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Islwyn yn hynod bleidiol i gynnig y Cyngor i adleoli'r man chwarae amlddefnydd i dir yr ysgol. Nawr mae modd bwrw ymlaen â gweledigaeth bresennol yr ysgol i ddatblygu ardal gymorth arbenigol i ddisgyblion y mae mawr ei hangen, gyda'r cyfleusterau'n cyd-fynd â'i gilydd yn berffaith.
“Mae'r ysgol a'r Corff Llywodraethol wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o adrannau'r Cyngor i alluogi symud y datblygiad hwn yn ei flaen. Mae'r dull cydweithredol wedi'i fabwysiadu hyd yma wedi bod o'r radd flaenaf, ac rydw i'n gwybod ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at adeiladu'r cyfleusterau hyn y mae mawr eu hangen, a'u defnyddio nhw."

”Dywedodd Gavin Bryce (Cadeirydd y Llywodraethwyr) a Jason Hicks (Pennaeth), “Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i dimau'r Awdurdod Lleol am gefnogi'r fenter bwysig hon. I ni, rydyn ni'n ysgol gymunedol, ac fe wnaethon ni groesawu'r cyfle i ddarparu cartref i'r man chwaraeon amlddefnydd newydd at ddefnydd y gymuned. Hefyd, mae gallu datblygu ardal gymorth arbenigol i ddisgyblion yn gwneud y datblygiad hwn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol. Bydd yn ein galluogi ni i ddarparu ymyriadau ychwanegol wedi'u teilwra i rai o'n disgyblion ni – bu angen rhagor o gymorth ar lawer ohonyn nhw ar ôl y pandemig COVID-19. Bydd y ddarpariaeth hon yn gynaliadwy, a bydd hi o fudd i ddisgyblion agored i niwed yng nghymuned Islwyn am flynyddoedd lawer.”


Ymholiadau'r Cyfryngau