News Centre

Newidiadau ar y gweill i gynlluniau trwyddedau parcio i breswylwyr Caerffili

Postiwyd ar : 07 Meh 2024

Newidiadau ar y gweill i gynlluniau trwyddedau parcio i breswylwyr Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi cynlluniau i addasu ei Bolisi Parcio i Breswylwyr, yn dilyn ymgynghoriad â deiliaid trwydded.

Cafodd y newidiadau eu cymeradwyo'n unfrydol mewn cyfarfod Cabinet y Cyngor ar 5 Mehefin. Yn ystod y cyfarfod, cafodd canlyniadau ymarfer ymgynghori diweddar, a gafodd ei gynnal gyda'r holl ddeiliaid trwydded barcio i breswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol, eu cyflwyno i aelodau'r Cabinet.

Cytunodd aelodau'r Cabinet â chynigion i newid oriau gweithredu'r Polisi Parcio i Breswylwyr i ddydd Llun i ddydd Sadwrn 8am tan 8pm (yn lle dydd Llun i ddydd Sadwrn 8am tan 6pm yn flaenorol). Bydd oriau gweithredu'r holl gynlluniau presennol yn y Fwrdeistref Sirol yn newid yn unol â'r polisi. Bydd hyn yn cael ei gymhwyso pan fydd y gorchymyn rheoleiddio traffig ar gyfer pob ardal yn cael ei symud ymlaen/adolygu.
Mewn ymateb i adborth gan breswylwyr, penderfynodd y Cabinet hefyd i gyfathrebu negeseuon gorfodi yn effeithiol i atal parcio anawdurdodedig.

Dywedodd Mark S Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Economi a'r Amgylchedd, “Rydyn ni'n deall y gall y materion sy'n ymwneud â pharcio fod yn rhwystredigaeth i rai preswylwyr. Rydyn ni'n ddiolchgar i'r rheini a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac yn falch o ddweud ein bod ni wedi gwrando ar eu barn nhw ac wedi gweithredu yn ôl hynny wrth roi'r newidiadau hyn ar waith.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau