Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2023
Trawsnewid yng nghynllun tai lloches Pontllan-fraith
News Centre
Trawsnewid yng nghynllun tai lloches Pontllan-fraith
Postiwyd ar : 20 Meh 2023
Mae cynllun tai lloches, sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn Springfield, Pontllan-fraith wedi cael ei drawsnewid, diolch i fuddsoddiad o £3.18 miliwn.
Mae’r hen lety un ystafell yn Ynyswen wedi'i ailfodelu i ddarparu fflatiau 1 a 2 ystafell wely sy’n olau ac â digonedd o le i breswylwyr. Mae pob cartref wedi cael ei adnewyddu'n helaeth gan gynnwys ceginau newydd, ystafelloedd gwlyb a systemau gwresogi, ac mae'r rhan fwyaf yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae system chwistrellu hefyd wedi’i gosod yn yr adeilad er diogelwch y preswylwyr.
Mae ffenestri newydd a rendro wedi gwella golwg yr adeilad yn ogystal a’i wneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Hefyd, mae paneli solar wedi cael eu gosod ar do Ynyswen.
Mae mannau cymunedol dan do ac yn yr awyr agored wedi cael eu trawsnewid, gyda phreswylwyr bellach yn gallu elwa o lolfa sy'n agored i'r awyr a mannau eistedd heulog i gymdeithasu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae gwell mynediad wedi sicrhau bod yr adeilad bellach yn cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Cafodd pob agwedd ar y gwaith yn Ynyswen ei chyflawni gan dîm mewnol y Cyngor, hyd yn oed gweithgynhyrchu’r fframiau ffenestri uPVC newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n cydnabod nad oedd dyluniad gwreiddiol y cynllun bellach yn addas i’r diben. Roedd maint y gwaith yn Ynyswen yn sylweddol, ond fe wnaeth ein tîm mewnol ymateb i’r her a chyflawni'r gwaith i safon eithriadol o uchel.
“Fe wnaeth y tîm wynebu nifer o heriau gyda’r prosiect hwn a hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran i’w wneud yn llwyddiannus. Diolch hefyd i breswylwyr Ynyswen am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y gwaith.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y