Tour of Britain yn dychwelyd i Gaerffili
Postiwyd ar : 20 Meh 2023
Bydd Tour of Britain eleni, ras feicio fwyaf y DU, yn cynnwys dychwelyd at ddringo enwog Mynydd Caerffili am y tro cyntaf ers 2013 fel rhan o gymal olaf ysblennydd yn Ne Cymru.
Bydd cymal wyth y daith yn gweld dros 100 o feicwyr gorau’r byd yn rasio o Barc Gwledig prydferth Margam i’r llinell derfyn yng nghysgod Castell Caerffili ddydd Sul 10 Medi.
Yn bell o fod yn ddiwedd seremonïol i’r ras, bydd y frwydr i gael eich coroni’n bencampwr Tour of Britain yn mynd i drwch y blewyn, diolch i lwybr hardd ond heriol, wedi'i gynorthwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r daith yn cynnwys tro yn ei chynffon ar ffurf dringo dwbl o Fynydd Caerffili, sydd â graddiant ar gyfartaledd o 10.1% ar draws ei 1.3 cilometr. Roedd 10,000 o wylwyr, yn ôl amcangyfrif, wrth ymyl llwybr y ddringfa boblogaidd hon yn 2013, y tro diwethaf iddi ymddangos yn y Tour of Britain.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyfle i gynnal cymal olaf y digwyddiad chwaraeon mawr hwn. Bydd cefndir syfrdanol Castell Caerffili yn darparu lleoliad godidog wrth i'r beicwyr groesi'r llinell derfyn - yn enwedig ar ôl mynd i'r afael â dringo heriol Mynydd Caerffili. Rwy’n siŵr y bydd trigolion a busnesau yn ymuno â mi wrth groesawu’r digwyddiad, a fydd yn helpu i roi Caerffili ar y map ar gyfer cynulleidfa ryngwladol.”
Darllenwch y cyhoeddiad llawn ar wefan Beicio Cymru.
Dilynwch y Tour of Britain ar Twitter, Facebook and Instagram oneu drwy wefan swyddogol y digwyddiad yn tourofbritain.co.uk