Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2023
Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr wrth ddechrau Digwyddiadau Haf y Cyngor
News Centre
Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr wrth ddechrau Digwyddiadau Haf y Cyngor
Postiwyd ar : 08 Meh 2023
Cafodd Rhisga ei thrawsnewid ar gyfer Parti Traeth Rhisga ar ddydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 Mai, ac fe wnaeth nifer enfawr o ymwelwyr fwynhau'r heulwen ar y ddau diwrnod.
Fe wnaeth 5,747 o bobl fynychu'r traeth, ac fe wnaeth 2,533 o bobl ymweld â chanol y dref. Dyma'r nifer fwyaf o bobl erioed i fynychu digwyddiad Cyngor Bwrdeisref Sirol Caerffili yn Rhisga!
Roedd y penwythnos llawn hwyl yn cynnwys traeth enfawr gyda chadeiriau cynfas, bwcedi a rhawiau, sioeau Pwnsh a Jwdi, paentio wynebau, reidiau ar gefn asynnod, ffair, ac amrywiaeth o stondinau bwyd a diod wedi'u gosod gan fusnesau lleol. Roedd rhywbeth i'r teulu cyfan ei fwynhau.
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau lleol am y digwyddiad:
Meddai Louise Jenkyn, Ysgrifennydd y Clwb yng Nghlwb Rygbi Rhisga, “Ar ran Clwb Rygbi Rhisga, roedden ni mor ddiolchgar am yr hysbysebu, ac roedden ni hefyd ar bob tudalen cyfryngau cymdeithasol leol. Roedd y diwrnod yn wych, roedden ni'n brysur drwy'r dydd a gwerthon ni ein byrgyrs a chŵn poeth i gyd. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn nhref Rhisga a does dim amheuaeth y byddai busnesau eraill wedi elwa ar y diwrnod. Parti Traith Rhisga 2024 amdani!”
Meddai Tracey Hollifield, perchennog Tracey's Funky Faces, “Roedd Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr i fi; roedd yn wych gweld pobl o'r llynedd a phaentio eu hwynebau nhw eto. Roedd yr haul yn gwenu ac roedd y dref yn disgleirio. Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n dda ac rydw i'n edrych ymlaen at ddod yn ôl flwyddyn nesaf.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Am ddiwrnod gwych arall yn Rhisga. Nifer yr ymwelwyr yn uchel a'r tywydd yn hyfryd. Hoffwn i ddiolch i'r holl fusnesau am eu gwaith gyda'n tîm digwyddiadau, gan greu profiad cadarnhaol i'r trigolion.”
Cafodd y prosiect hwn ei gyllido'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ennyn mwy o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i
www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Wedi colli allan ar yr hwyl yn Rhisga? Dewch draw i Barti Traeth Coed Duon ar ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf! Am ragor o wybodaeth ac am y newyddion diweddaraf, dilynwch dudalen y digwyddiad ar Facebook:
bit.ly/43IxEPe
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y