Mwy o ganol trefi i elwa o Wi-Fi cyhoeddus am ddim
Postiwyd ar : 13 Meh 2022
Mae mynediad at Wi-Fi cyhoeddus am ddim wedi cael ei droi ymlaen ym Margod ac Ystrad Mynach gan helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus lleol a chenedlaethol a chyfleoedd economaidd.
Rhymni a Rhisga oedd y canol trefi cyntaf i ‘fynd yn fyw’ gyda Wi-Fi cyhoeddus am ddim yn gynharach eleni fel rhan o gymorth parhaus Cyngor Caerffili i adfywio canol ein trefi.
Gyda chyllid o Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a hen Gronfa Tasglu'r Cymoedd ar gyfer Cwm Rhymni, dechreuodd y gwaith paratoi ar gyfer y prosiect i osod seilwaith Wi-Fi yn 2020 ac mae wedi’i gwblhau mewn 7 tref allweddol.
Mae'r fenter yn rhan allweddol o'n hymgyrch ni, Dewis Lleol, sy'n ceisio annog trigolion i #DewisLleol ac archwilio pob un o'n canol trefi allweddol ni a'r cyffiniau i ddiwallu anghenion siopa cyffredinol.
Gall trigolion gysylltu dyfeisiau mewn ardal eang yng nghanol y dref ac o'i chwmpas;
Wi-Fi drwy'r rhwydwaith _FreeCCBCWifi - Bydd y platfform yn gofyn i chi gofrestru eich manylion chi, felly dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru.
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Mae Wi-Fi cyhoeddus canol tref yn gyfle i dynnu pobl yn ôl i ganol trefi lleol fel cyrchfannau gan fod llawer o bobl yn parhau i weithio o gartref. Ei nod yw hyrwyddo siopau a gwasanaethau lleol a chreu profiad canol tref gwahanol.
Mae Wi-Fi mynediad cyhoeddus am ddim yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl i gael mynediad at wasanaethau lleol a hanfodol y Cyngor, y Llywodraeth ac iechyd a chymryd rhan yn yr economi ddigidol.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y cynllun Wi-Fi yn ‘mynd yn fyw’ yn Nhrecelyn, Coed Duon a Chaerffili.”
I gael rhagor o wybodaeth am ein hymgyrch Dewis Lleol, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy