Clinig Cymorth a Chyllido i Fusnesau – Dydd Mercher 15 Mehefin
Postiwyd ar : 08 Meh 2022
Yn y sesiwn hon, gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am gymorth lleol sydd ar gael i'ch busnes chi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru.
Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn ni ddarparu cyllid i gychwyn neu ehangu busnes, gan eich helpu chi gyda chyllid er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.
Gall y sesiynau hyn gael eu cynnal naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru, Britannia House, Parc Busnes Caerffili, Van Road, Caerffili CF83 3GG.
P'un a ydych chi'n fusnes newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol.
I gadw slot 20 munud o hyd, anfonwch e-bost i busnes@caerffili.gov.uk. Cofiwch nodi a hoffech chi gyfarfod o bell ar-lein neu wyneb yn wyneb.