News Centre

Murlun newydd yn bywiogi canol tref Bargod

Postiwyd ar : 16 Gor 2024

Murlun newydd yn bywiogi canol tref Bargod
Mae murlun wedi'i gwblhau yn ddiweddar ar wal wag yn Stryd Fawr Bargod, gan ychwanegu ychydig o liw a bywiogrwydd i ganol y dref.
 
Cafodd y wal o dan Emporium Building ei nodi fel lleoliad addas ar gyfer paentio, ac fe wnaeth y Cyngor gomisiynu Andy O’Rourke o Malarky Arts i greu’r murlun. Mae Andy yn artist lleol enwog o Gasnewydd sydd â phrofiad o gyflwyno gwaith celf tebyg ledled awdurdodau lleol, gan gynnwys prosiect Parc Glan yr Afon o dan yr A472 yn Nhrecelyn.
 
Mae thema’r murlun yn tynnu sylw at dwf mewn bioamrywiaeth ar hen safleoedd gwastraff pyllau glo a sut y gallai hynny adlewyrchu adfywio'r dref ei hun. Ar y murlun, mae darn o’r gerdd “Etifeddiaeth” gan Gerallt Lloyd Owen:
 
“Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw”
 
Cafodd y prosiect hwn ei gefnogi a'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin sy’n rhan o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nod y prosiect yw cryfhau gwead cymdeithasol; meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol; buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella’r cysylltiadau corfforol, diwylliannol a chymdeithasol a gwella cyfleusterau lleol trwy brosiectau wedi'u harwain gan y gymuned. Mae hyn yn creu lleoedd o ansawdd y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddyn nhw, trwy welliannau wedi'u targedu, cefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau.
 
Dywedodd Jo Hillier-Raikes, Prif Swyddog Canol Trefi a Chymorth Busnes, “Rydyn wrth ein bodd gydag ansawdd y gwaith wedi'i gyflawni gan Andy, ac mae'r ymateb cadarnhaol gan y gymuned leol wedi bod yn wych. Mae disgwyl y bydd y gwaith celf yn creu ymdeimlad o falchder ac yn annog ymwelwyr i ganol y dref. Cafodd Bargod ei ddewis fel peilot ar gyfer y gwaith celf, ac rydyn ni'n gobeithio cyflwyno cynlluniau tebyg mewn prif drefi eraill o dan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU os oes modd dod o hyd i leoliadau addas.”


Ymholiadau'r Cyfryngau