News Centre

Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu

Postiwyd ar : 03 Gor 2024

Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu
Mae cyrtiau tennis Maes y Sioe, Coed Duon wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth, wedi'i reoli gan y Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda chefnogaeth Sefydliad Tennis y LTA. Mae'r adnewyddiad hwn yn rhan o'r trawsnewidiad mwyaf o gyfleusterau tennis parc ledled Prydain, gan gwmpasu chwe safle parc yn ardal Caerffili.
 
Nod y prosiect adnewyddu, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £377,828.22, yw adnewyddu cyrtiau tennis ar draws yr ardal leol, gan wella ansawdd y cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael i'r gymuned yn sylweddol. Mynychodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac aelodau o'r LTA y digwyddiad ailagor ar Faes y Sioe, Coed Duon a oedd yn cynnwys sesiynau tennis amrywiol i aelodau'r gymuned.
 
Mae'r gwaith adnewyddu helaeth yn cynnwys gosod wyneb newydd, ail-baentio, ffensys newydd, rhwydi a systemau gatiau, gan sicrhau bod y cyrtiau'n wydn ac o ansawdd uchel am flynyddoedd i ddod. Mae'r fenter hon yn rhan o Brosiect Tennis Parc gan yr LTA, sy'n ceisio adfywio miloedd o gyrtiau tennis cyhoeddus ledled y wlad, gan hyrwyddo gweithgaredd corfforol a hygyrchedd i'r gamp.
 
Yn ogystal â'r gwaith uwchraddio corfforol, bydd y cyrtiau'n cynnal sesiynau Tennis Parc Rhad ac Am Ddim wythnosol Barclays gyda'r offer yn cael eu darparu, yn ogystal â Chynghreiriau Tennis Lleol ar gyfer cystadleuaeth gyfeillgar a chymdeithasol. Mae modd llogi cyrtiau'n hawdd trwy'r Ap Dull Byw Hamdden.
 
Mae opsiynau aelodaeth yn cynnwys:
  • Talu a Chwarae: £4.50 yr awr i ddau berson.
  • Tocyn Tennis Blynyddol i Fyfyriwr: £19
  • Tocyn Tennis Blynyddol: £39
Mae'r tocyn blynyddol i'r aelwyd gyfan, sef £39 yn unig, yn caniatáu i deuluoedd chwarae’n wythnosol am lai na 50c y chwaraewr fesul gêm, gan sicrhau fforddiadwyedd a hygyrchedd.
 
Torrodd Rob Hartshorn, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd, Gwasanaethau Cymunedol a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y rhuban i agor y cyrtiau a dwedodd: “Mae’r cyrtiau hyn sydd newydd eu hadnewyddu yn ychwanegiad gwych i’n cymuned. Maen nhw'n rhoi cyfle gwych i bobl o bob oed a gallu fwynhau tennis a chadw'n heini. Rydyn ni'n falch o fod wedi partneru gyda’r LTA a Sefydliad Tennis y LTA ar y prosiect hwn, a fydd o fudd i’n preswylwyr am flynyddoedd i ddod.”
 
Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu'r LTA: “Ar ôl misoedd o waith caled, rydyn ni’n falch iawn o weld cyrtiau tennis parc ledled Caerffili ar agor yn swyddogol i’r cyhoedd unwaith eto, ac mewn cyflwr gorau nag erioed. Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau mor hanfodol ar gyfer bod yn actif, ac rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl, o bob oed a gallu, godi raced a mwynhau chwarae tennis. Diolch i’r buddsoddiad hwn, bydd y gamp yn agored i fwy o chwaraewyr am flynyddoedd i ddod.”
 
Am ragor o wybodaeth am logi cyrtiau ac aelodaeth, defnyddiwch yr Ap Dull Byw Hamdden neu fynd i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.


Ymholiadau'r Cyfryngau