News Centre

Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff

Postiwyd ar : 01 Gor 2024

Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Bydd canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Strategaeth Wastraff ddrafft Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) yn cael eu hystyried gan gynghorwyr dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r Strategaeth Wastraff yn nodi'r cyfeiriad strategol a'r cynllun tymor hwy i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd ac yn rhagori ar dargedau perfformiad ailgylchu a datgarboneiddio statudol.

Roedd ymgynghoriad yn agored i'r cyhoedd o 5 Chwefror - 29 Ebrill 2024, ac yn cynnig cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan a dweud eu dweud ar weithrediad arfaethedig y Strategaeth Wastraff ddrafft. Yn ystod y cyfnod hwn derbyniodd y Cyngor dros 2800 o arolygon wedi'u cwblhau, yn ogystal â mynychu 16 o sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb.

Mae'r Strategaeth yn seiliedig ar bum amcan strategol:
  • Lleihau cynnydd mewn gwastraff yn gyffredinol.
  • Cynyddu cyfraddau atgyweirio ac ailddefnyddio.
  • Cynyddu cyfran ac ansawdd y deunydd sy'n cael ei ailgylchu.
  • Optimeiddio cyfrannu at ynni adnewyddadwy a'r defnydd ohono.
  • Helpu trigolion i reoli gwastraff mewn modd mwy cynaliadwy.

O dan bob un o'r amcanion hyn mae cyfres o gamau gweithredu a fydd yn cael eu cyflawni.

Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r ffordd mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu rheoli, cyflwyno gwasanaeth casglu ailgylchu newydd sy’n cyd-fynd â Glasbrint Llywodraeth Cymru, lleihau amlder casgliadau gwastraff gweddilliol ac archwilio opsiynau i gyflwyno fflyd o gerbydau allyriadau isel iawn.  Bydd hyn i gyd yn digwydd gan ddefnyddio systemau TG newydd sy'n ymgorffori technoleg yn y cerbyd.

Dywedodd Marcus Lloyd, Pennaeth Isadeiledd: “Yn dilyn yr ymatebion a ddaeth i law o’n hymgynghoriad cyhoeddus, rydyn ni bellach wedi drafftio Strategaeth Wastraff derfynol i’w hystyried a’i chymeradwyo gan aelodau etholedig.

“Mae’r Strategaeth yn amlinellu sut mae CBSC yn bwriadu cyrraedd a rhagori ar dargedau statudol yn y dyfodol trwy amrywiaeth o fesurau a fydd yn cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff cyffredinol, tra hefyd yn edrych ar fesurau datgarboneiddio i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae’r gofynion ariannol sydd wedi'u hamlinellu yn y Strategaeth yn cynnwys gwariant cyfun o gyllid CBSC, cyllid gan Lywodraeth Cymru a benthyca, sy’n angenrheidiol i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol wrth ddiogelu ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ar gyfer ein trigolion am flynyddoedd i ddod.”

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r Strategaeth Wastraff ddrafft yn cael eu hystyried mewn cyfarfod Craffu ar y Cyd y Cyngor yr wythnos nesaf (08/07/23) cyn mynd ymlaen i gael penderfyniad terfynol yng nghyfarfodydd y Cabinet a’r Cyngor Llawn yn ddiweddarach yn y mis.


Ymholiadau'r Cyfryngau