Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2023
Street Food Factory: busnes lleol sy'n ffynnu ar ôl cael cymorth gan Gyngor Caerffili a Llywodraeth
News Centre
Street Food Factory: busnes lleol sy'n ffynnu ar ôl cael cymorth gan Gyngor Caerffili a Llywodraeth y DU
Postiwyd ar : 18 Gor 2023
Mae Street Food Factory, sy'n gweithredu ers 2019, wedi ehangu ar eu busnes gyda chegin symudol bwrpasol newydd i ateb y galw cynyddol am eu cynnyrch a'u gwasanaeth. Mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth ers y pandemig gyda dros 23% o gynnydd i'w refeniw a gwerthiant. Maen nhw'n darparu amrywiaeth o fwyd blasus ar gyfer y staff llwglyd mewn lleoedd fel Unilever, JR Gilbert Engineering, ac eraill yn ddi-ffael o amgylch ardal Oakdale. Mae 80% o'u busnes bellach yn gweithredu ar-lein, drwy
www.streetfoodfactory.co.uk
. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth dosbarthu bwyd gyda'r nos.
Fe gafodd Street Food Factory £24,249.00 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd arian cyfatebol ei ychwanegu i’r grant, a oedd yn cynnwys grant cyfalaf o £20717.49 a grant refeniw o £3531.51. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Street Food Factory o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Gwnaeth y grant gynorthwyo gwaith trawsnewid y gegin symudol gan eu galluogi i brynu'r offer cegin sydd eu hangen i greu gofod addas i baratoi bwyd. Roedd hefyd o ddefnydd i gynorthwyo â chostau’r 2 aelod newydd o staff, eu hyfforddiant, gwisg staff, cynllun gwobrwyo staff, a meddalwedd talu ar gyfer taliadau sgrin gyffwrdd.
Dywedodd perchennog Street Food Factory, sydd hefyd yn berchen ar MC Marketing Service ac sydd â 3 cyfleuster bwyd/bar symudol sy’n gwasanaethu mewn digwyddiadau ledled y DU, “Mae’r grant wedi bod yn ffactor enfawr wrth i ni ehangu ein busnes a darparu beth oedd ein cwsmeriaid ei angen. Roedd y broses ymgeisio yn hawdd iawn ac roedd cymorth y Timau Busnes yn y broses yn galonogol iawn. Mae wedi helpu i roi hwb sylweddol i'n cynlluniau i wneud y busnes yn fwy ac yn well nag erioed!”
Galwodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, heibio i weld y gwaith oedd wedi ei wneud i drawsnewid yr uned. Dywedodd, “Mae’n wych gweld ein bod ni, fel Cyngor, yn gallu cynorthwyo ein hentrepreneuriaid lleol i greu busnesau a swyddi newydd yn yr ardal leol. Mae'r cymorth ariannol wedi helpu i greu busnes llwyddiannus arall, a fydd yn siŵr o ffynnu.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y