Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio cymorth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safle chwa
News Centre
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio cymorth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safle chwarel halogedig
Postiwyd ar : 20 Gor 2023
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gofyn i’r Prif Weinidog ymyrryd i helpu i fynd i’r afael â materion hanesyddol ynghylch gwastraff cemegol a gafodd ei waredu ar ddiwedd y 1960au ar safle chwarel Tŷ Llwyd ger Ynysddu.
Mae’r Cynghorydd Sean Morgan wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yr wythnos hon (Mercher 19 Gorffennaf), yn dilyn penderfyniad diweddar mewn cyfarfod y Cyngor i wneud cais ffurfiol i gael cymorth.
Yn ei ohebiaeth at y Prif Weinidog, mae'r Cynghorydd Morgan yn ysgrifennu,
“Mae fy Nghyngor yn parhau i reoli etifeddiaeth hen chwarel Tŷ Llwyd uwchlaw cymuned Ynysddu.
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn parhau i weithio gyda'u cydweithwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cynllun effeithiol i reoli trwytholch sy'n deillio o'r safle er boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r her o reoli’r trwytholch yn fater tymhorol sydd wedi’i waethygu gan ein hinsawdd newidiol a’r cyfnodau canlyniadol o law sylweddol yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae proffil y safle ynghyd â'r materion etifeddiaeth cysylltiedig wedi codi'n sylweddol dros y 12 mis diwethaf a chafodd Rhybudd o Gynnig ei gyflwyno i'r Cyngor llawn ar 4 Gorffennaf gan y ddau aelod annibynnol lleol sy'n cynrychioli ward Ynysddu. Cafodd y Rhybudd o Gynnig ei gymeradwyo'n llawn gan y Cyngor, a ofynnodd i mi ofyn am eich cymorth ac ymyrraeth yn y modd canlynol.
Cafodd ei ddatgan yn y Rhybudd o Gynnig y dylai “Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus Annibynnol ac i ymchwilio a hwyluso cyllid yn unol â Rhan Dau o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd”.
Yn ddiweddar, fe wnaeth fy swyddogion gwrdd â nifer o'ch swyddogion chi o'r Adran Ansawdd Amgylcheddol ar 4 Gorffennaf a'u hysbysu nhw'n llawn o'r sefyllfa bresennol ynghyd â manylion y gwaith arfaethedig pellach a fydd yn cael ei gyflawni gan fy swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi eich ymateb chi i'r cais am gymorth fel y manylir yn y Rhybudd o Gynnig uchod. Fodd bynnag, yn y cyfamser rwy’n hapus i drafod y mater gyda’r Gweinidog a swyddogion perthnasol os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi.”
Mae'r Cynghorydd Morgan wedi addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned am yr ymateb dilynol gan Lywodraeth Cymru.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y