Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2023
Caerffili, mae angen eich help chi – ymunwch â'r mudiad ailgylchu
News Centre
Caerffili, mae angen eich help chi – ymunwch â'r mudiad ailgylchu
Postiwyd ar : 27 Gor 2023
Mae pobl ifanc yn apelio at drigolion Caerffili i ymuno â'r mudiad ailgylchu o ganlyniad i gymeradwyaeth Cabinet Caerffili i gefnogi trywydd y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff.
Cytunodd y Cabinet ar drywydd sy'n amlinellu cynlluniau i ddatblygu Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu. I gychwyn yr ymgyrch cyhoeddus i gynyddu cyfranogiad rydyn ni'n clywed gan ddisgyblion Ysgol Cwm Gwyddon, gyda neges bwysig, “Caerffili, mae angen eich help chi!”.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae'r neges hon gan ddisgyblion Ysgol Cwm Gwyddon yn ein hatgoffa ni fod y mudiad ailgylchu yn hollbwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod ni'n gallu cyflawni'r targedau uchelgeisiol sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru gyda gwasanaeth ailgylchu cadarn.”
Mae'r trywydd saith mlynedd yn amlygu nifer o ‘brosiectau piler’ sydd wedi'u nodi fel ymyriadau ar unwaith, gan ddisgwyl iddyn nhw gynyddu perfformiad ailgylchu. Mae'r prosiectau piler hyn yn cynnwys:
Darpariaethau Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi – Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i wella arwyddion a chynlluniau'r safleoedd, gwella gwasanaethau i gwsmeriaid ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chyflwyno gofyniad didoli ymlaen llaw.
Ailgylchu gwastraff sych wrth ymyl y ffordd – Bydd ymgyrch eang yn cael ei lansio yn hysbysu trigolion am sut a pham i ailgylchu gan greu sylfeini cryf ar gyfer newid ymddygiad.
Ailgylchu gwastraff organig wrth ymyl y ffordd – Bydd gwaith yn parhau i dynnu sylw at fanteision ailgylchu gwastraff organig drwy fentrau fel yr ymgyrch Gweddillion am Arian a bydd hefyd yn cyflwyno treial 12 mis o ran leininau cadis am ddim.
Gwastraff gweddilliol wrth ymyl y ffordd – Bydd y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â thrigolion ynghylch y polisïau gwastraff gweddilliol presennol, er enghraifft, pentyrru bagiau ar ben y bin a gwastraff wrth ochr y bin.
Gwasanaeth masnachol – Bydd y gwasanaethau presennol yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y gwasanaeth gwastraff masnachol gweddilliol yn gystadleuol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Er bod rhai trigolion yn gwneud eu rhan, rydyn ni'n gwybod bod tua 50% o finiau cyffredinol gwyrdd Caerffili yn cynnwys deunyddiau sy'n gallu cael eu hailgylchu, gan gynnwys 9,000 tunnell o wastraff bwyd. Mae hynny'n swm syfrdanol ac rwy'n sicr y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd gyda gwasanaethau gwell, fel sydd wedi'u hamlinellu yn y trywydd, a mwy o gyfranogiad gan drigolion, i gyflawni cyfraddau ailgylchu o 70% a thu hwnt i wneud y peth iawn a diogelu ein hamgylchedd ni.”
Fel rhan o'r ymgyrch, gall trigolion ddisgwyl gweld deunyddiau'n cael eu danfon yn uniongyrchol i gartrefi, yn amlinellu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Bydd strategaeth ddrafft wedi'i diweddaru yn cael ei datblygu i'w hystyried gan Gyd-bwyllgor Craffu a'i benderfynu gan y Cabinet yn hwyr yn yr hydref 2023. Os yw'n cael ei gytuno, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar ddechrau 2024.
Gwyliwch y fideo llawn yma.
Am ragor o wybodaeth am ymuno â'r mudiad ailgylchu, ewch i'n tudalennau gwe
www.caerffili.gov.uk/ailgylchu
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y