Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2022
Cabinet CBSC yn cychwyn ar daith
News Centre
Cabinet CBSC yn cychwyn ar daith
Postiwyd ar : 19 Gor 2022
Bydd grŵp o uwch gynghorwyr CBSC yn ymweld â chymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i drafod cyfleoedd newydd ac ystyried materion allweddol sy’n effeithio ar bobl leol.
Mae Cabinet y cyngor yn awyddus i fynd allan ar lawr gwlad a gweld drostynt eu hunain y cyfleoedd a’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r gymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rwyf wedi addo sicrhau newid cadarnhaol i drigolion y fwrdeistref sirol a rhan allweddol o’r broses hon yw deall yn well y ‘pynciau poeth’ yn ein trefi a’n pentrefi.”
“Byddwn ni'n ymweld â phob rhan o’r fwrdeistref sirol dros yr wythnosau nesaf ac fel cabinet rydyn ni'n edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyfle hwn i ehangu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r materion sydd bwysicaf i bobl leol.”
Ymwelodd y grŵp â chanol tref Caerffili yn gyntaf i weld nifer o safleoedd datblygu uchelgeisiol a fydd yn trawsnewid ffawd y dref yn y dyfodol:
Safle arfaethedig datblygiad canolfan hamdden newydd a gwell ar Barc Busnes Caerffili, sydd ar hyn o bryd yn destun cais am Gyllid Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU.
Gorsaf drenau a bysiau Caerffili, sydd wedi’i glustnodi fel safle ar gyfer canolbwynt cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd sylweddol.
Y farchnad dan do bresennol ar Pentrebane Street, a fydd yn gwneud lle ar gyfer datblygiad preswyl a manwerthu defnydd cymysg uchelgeisiol. Rhan allweddol o hyn yw adleoli masnachwyr y farchnad i lety arall yn y dref.
Safle datblygiad gwesty bwtîc cynlluniedig ar Park Lane gyferbyn â chastell godidog y dref
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jamie Pritchard: “Mae gennym ni gynlluniau mentrus ac uchelgeisiol i drawsnewid canol tref Caerffili dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n ddefnyddiol ymweld â’r gwahanol safleoedd i drafod y materion sy’n ymwneud â phob datblygiad arfaethedig.”
“Mae ein cynlluniau trawiadol, a amlinellwyd yng nghynllun Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035, yn dangos yn glir ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau newid cadarnhaol i drigolion ein bwrdeistref sirol. Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid allweddol i wireddu’r cynlluniau hyn ac edrychwn ymlaen at weld llawer o gynnydd cyffrous yn y dyfodol agos.”
Am ragor o wybodaeth am Gynllun Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035, ewch i
https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y