Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2024
Mannau gwyrdd Caerffili i barhau i ffynnu
News Centre
Mannau gwyrdd Caerffili i barhau i ffynnu
Postiwyd ar : 19 Ion 2024
Bydd mannau gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i ffynnu eleni, ar ôl i'r Cabinet gytuno ar drefniadau gwaith torri gwair sy'n hyrwyddo bioamrywiaeth.
Fe wnaeth aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gytuno ar barhau i dorri gwair ar hyd lleiniau ymylon priffyrdd a ffyrdd osgoi cyn lleied â phosibl, yn unol â chanllawiau Traffig Cymru.
Bydd amlder y gwaith torri gwair yn parhau fel y mae ar hyn o bryd yn achos lleiniau gwelededd a llinellau gweld ar briffyrdd, ymylon a mynediad ar droedffyrdd/llwybrau beicio, meysydd chwaraeon, mannau trefol megis ystadau tai, parciau dinesig, llety pobl hŷn, mynwentydd, a mannau agored cyhoeddus ar gyfer chwarae/hamdden.
Hefyd, fe wnaeth y Cabinet ymrwymo i barhau i gefnogi'r prosiect ‘Natur Wyllt’ a sefydlu dull rheoli cydgysylltiedig o ran mannau gwyrdd i greu cynefinoedd llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent.
Cafodd rhestr o fannau a fydd yn cael ffynnu yn ystod yr haf, ynghyd â chynlluniau i ddatblygu a gwella mannau drwy ddefnyddio hadau blodau gwyllt, hefyd eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am Fannau Gwyrdd, “Rydyn ni'n deall pwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng annog bioamrywiaeth a darparu mannau gwyrdd hygyrch. Mae'r drefn bresennol o ran torri gwair, sydd wedi'i datblygu drwy ymgynghori â'r gymuned, yn ceisio cyflawni hyn.
“Yn ogystal â hyrwyddo bioamrywiaeth drwy ein dull o reoli mannau gwyrdd, bydd hefyd yn helpu lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, sef ymrwymiad a gafodd ei wneud pan wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y