Cau ffordd – Pontllan-fraith
Postiwyd ar : 10 Ion 2022
Bydd rhan o B4251 Commercial Street, Pontllan-fraith, (yn agos i Bridge Vets) ar gau yn llwyr rhwng dydd Sadwrn 15 Ionawr a dydd Mawrth 18 Ionawr.
Bydd hyn yn caniatáu i'r Cyngor wneud gwaith ymchwilio i gwlfert dŵr wyneb sydd wedi'i ddifrodi. Mae'r gwaith yn amodol ar y tywydd ac amgylchiadau eraill sy'n caniatáu cynnydd boddhaol.
Bydd mynediad i'r filfeddygfa a'r orsaf betrol ar gael o'r gorllewin ar hyd B4251. Bydd mynediad i Tram Road, busnesau ac eiddo preswyl ar ochr ddwyreiniol y gwaith ar gael o'r dwyrain ar hyd B4251.
Er mwyn rheoli mynediad i Tram Road, bydd system rheoli traffig ddwyffordd 24 awr ar waith drwy gydol cyfnod y gwaith.
Os oes gennych chi unrhyw broblemau neu gwestiynau ynghylch y cynllun hwn, cysylltwch â'r Tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01443 866562 neu e-bostio peirianneg@caerffili.gov.uk
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.