Staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymateb i Apêl Prydau Ysgol Am Ddim
Postiwyd ar : 18 Chw 2022
Oherwydd y rhybudd tywydd coch sydd mewn grym, penderfynodd y Cyngor ganslo’r trefniadau ar gyfer dosbarthu prydau ysgol am ddim heddiw.
Byddai hyn wedi arwain at nifer o deuluoedd heb gyflenwad prydau ysgol am ddim ar gyfer gwyliau hanner tymor yr ysgol.
Anfonodd Christina Harrhy, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili apêl at yr holl staff i ofyn am wirfoddolwyr a oedd yn fodlon rhoi help i ddosbarthu’r prydau hyn y prynhawn yma.
Ymatebodd dwsinau o staff a chiwio y tu allan i Dŷ Penallta i gasglu a dosbarthu prydau ysgol am ddim ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd Christina Harrhy, Prif Weithredwr “Dyma enghraifft arall o’r hyn sy’n bosibl fel rhan o Dîm Caerffili. Does dim byd yn ein rhwystro – mae ein hymrwymiad ar y cyd i ddiogelu ein pobl a’n lle bob amser ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gwirfoddoli dros yr wythnos ddiwethaf ond yn enwedig i’r rhai a ddaeth y prynhawn yma. Rydw i mor falch ac mor ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.”